20 Cynllun Strategol Manddaliadau 2026-2031
PDF 913 KB
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau 2026-2031.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau 2026-2032, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo, y Cynllun Strategol yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn rheoli ei ystâd Mân-ddaliadau amaethyddol dros y pum mlynedd nesaf. Nod y cynllun yw sicrhau hyfywedd hirdymor yr ystâd trwy sicrhau ei bod yn darparu enillion ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol priodol sy'n adlewyrchu ei gwerth cyfalaf. Mae'n nodi pedwar maes blaenoriaeth – ystâd gynaliadwy yn ariannol, ystâd a reolir yn dda, ystâd lle mae risg yn cael ei lleihau a'i rheoli, ac ystâd sy'n cefnogi amcanion Cynllun y Cyngor. Pwysleisiodd y Cynghorydd Alun Roberts fod yr ystâd yn destun balchder a bod y cynllun yn ceisio ei gosod ar sail ddiogel ar gyfer y dyfodol.
Adroddodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ar waith y Grŵp Llywio Mân-ddaliadau amlbleidiol a sefydlwyd i adolygu'r polisi blaenorol a fabwysiadwyd dros 15 mlynedd yn ôl. Cyfarfu'r grŵp bedair gwaith ac mae’n argymell y cynllun diwygiedig fel y'i cyflwynir. Ailadroddodd y balchder yn yr ystâd a'i chyfraniad i'r sector ffermio, cymunedau gwledig a'r Gymraeg. Mae barn bendant y dylid cadw'r ystâd, ac nid oes unrhyw ddymuniad i’w gwaredu ar raddfa fawr.
Ar hyn o bryd mae'r ystâd yn cynhyrchu elw o tua £200k i'r Cyngor ac mae ei gwerth a'i rheolaeth yn cyfiawnhau buddsoddiad parhaus. Fodd bynnag, mae costau cynnal a chadw yn codi'n gyflymach na'r gyllideb ac mae'r cynllun yn argymell cynyddu'r gyllideb atgyweirio a chynnal a chadw flynyddol o £102k yn 2026/27 i fynd i'r afael â'r gwaith sy’n cronni. Er nad oes unrhyw fwriad i werthu unedau, mae'r grŵp o'r farn ei bod yn rhesymol asesu'r achos busnes ar gyfer cadw neu waredu pan fydd daliadau'n dod yn wag, cadw tir lle bo'n bosibl ac ail-fuddsoddi unrhyw dderbyniadau cyfalaf yn ôl i'r ystâd. Dylid diogelu tenantiaid, ond mae angen adolygu rhenti yn unol â'r darpariaethau a'r cytundebau teg a sefydlwyd. Ystâd Mân-ddaliadau Ynys Môn yw'r ail fwyaf yng Nghymru ac mae'n amrywio o ran maint, defnydd a lleoliad. Y nod yw ei rheoli mor effeithiol â phosibl.
Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Chwefror 2026, lle ystyriodd yr aelodau Gynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau. Adolygodd yr Aelodau y ddogfen a rhoddwyd sicrwydd y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i sut y bydd cynnydd yn cael ei adrodd. Trafodwyd gwerth am arian ac ymgysylltu â thenantiaid. Ar ôl trafod ac ystyried y materion a godwyd a'r ymatebion a ddarparwyd, penderfynodd y pwyllgor argymell Cynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau 2026-2031 i'r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.
Diolchodd y Cynghorydd Gary Pritchard i'r Grŵp Llywio Mân-ddaliadau a’u gwaith sy’n sylfaen i'r cynllun strategol.
Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau 2026-2031.