6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio
PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 FPL/2024/228 - Cais llawn ar gyfer adeiladu cyfleuster gofal ychwanegol a chartref gofal preswyl, ynghyd â chyfleusterau cymunedol, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, gwaith gwella priffyrdd, dymchwel yr adeilad presennol ar y safle ynghyd â gwaith datblygu cysylltiedig ar dir ger Glasynys, Tyddyn Mostyn, Porthaethwy
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac ar gais Aelodau Lleol.
Cofnodion:
6.1 FPL/2024/228 – Cais llawn ar gyfer codi cyfleuster gofal ychwanegol a chartref gofal preswyl gyda chyfleusterau cymunedol, creu mynedfa newydd i gerbydau, gwaith i wella’r briffordd, dymchwel yr annedd bresennol ar y safle ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir ger Glasynys, Tyddyn Mostyn, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y datblygiad hwn yn gais cynllunio sylweddol a’i fod yn argymell cynnal ymweliad safle. Nododd bod dau Aelod Lleol hefyd wedi gofyn am ymweliad safle oherwydd maint y datblygiad a phryderon sydd wedi cael eu codi gan drigolion lleol.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle un unol ag argymhelliad y Swyddog a chais yr Aelodau Lleol.