Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 FPL/2025/275 - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw lloches cae yn Aberhoccwm, Hermon
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Cofnodion:
7.1 FPL/2025/275 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw lloches cae yn Aberhoccwn, Hermon
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2026 argymhellodd yr aelodau y dylid cynnal ymweliad safle, a chynhaliwyd ymwelid safle ar 18 Chwefror, 2026.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Ms Nia Hughes, yr ymgeisydd o blaid y cais, a dywedodd ei bod wedi bod yn cadw anifeiliaid ers dros 30 mlynedd a’i bod yn lleol ac yn byw yn Niwbwrch. Dywedodd bod ganddi dorllwyth o ddefaid Ryeland prin, dwy ferlen, alpacaod a chŵn. Bwriad y lloches yw gofalu am yr anifeiliaid. Mae lloches wedi bod ar y safle ers 2010. Cafodd y lloches wreiddiol ei adeiladu ar ôl cael caniatâd cynllunio ond cafodd ei ddinistrio mewn storm yn 2013. Am resymau diogelwch, penderfynwyd dymchwel y lloches a chodi lloches arall yn is i lawr gan fod y lloches wreiddiol yn amharu ar olygfeydd bwthyn bach Aberhoccwn. Dywedodd nad oedd yn ymwybodol bod angen cysylltu â’r Adran Cynllunio a bod angen caniatâd cynllunio i ailadeiladu’r lloches gan fod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi yn y gorffennol. Nododd bod rhaid iddi aros yn y lloches 2 i 3 mis o’r flwyddyn i ofalu am yr anifeiliaid yn ystod y tymor wyna. Aeth ymlaen i ddweud ei bod wedi cael sylwadau positif am y lloches dros y blynyddoedd gan drigolion lleol ac ymwelwyr.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn i gadw’r lloches bresennol ar y safle, sy’n cynnwys ystafell ar gyfer cadw anifeiliaid, decin â gorchudd, cawod, toiled a sinc. Mae’r cais hefyd yn cynnwys cadw’r garafán deithio sydd yn sownd yn y lloches. Yn ystod ymweliad safle ar 18 Chwefror, 2026 roedd dafad a dau oen yn y lloches a gwellt ar y llawr. Roedd y drysau Ffrengig wedi cael eu tynnu ac roedd rhai o’r ffenestri wedi cael eu bordio. Yn ystod ymweliad gan Swyddog Gorfodi ym mis Awst 2025, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y lloches erioed wedi cael ei defnyddio i gadw anifeiliaid ac roedd y lloches wedi’i dodrefnu gyda soffa a dodrefn eraill yn ogystal â stôf goed. Pan ymwelodd y Swyddog Achos â’r safle ym mis Rhagfyr 2025, roedd 3 alpaca yn y lloches. Roedd yn glir bod y garafán a'r ystafell gawod wedi cael eu defnyddio am gyfnod hir ac nid oedd yn ymddangos bod y lloches yn cael ei defnyddio fel lle dros dro i lochesu. Mae’r ffaith bod y garafán wedi cael ei chysylltu i’r tanc septig hefyd yn profi bod y lloches yn cael ei defnyddio’n barhaol. Nid yw’r llawr pren yn addas ar gyfer anifeiliaid, gan y bydd yn pydru a bydd baw yn syrthio rhwng yr estyll. Fe ddylai’r llawr fod yn llawr concrid fel y gellir rhoi gwellt glân i’r anifeiliaid. Aeth ymlaen i ddweud nad yw maint a dyluniad yr adeilad presennol yn addas. Ers mis Rhagfyr 2025, mae’r perchennog wedi ceisio troi’r adeilad yn lloches i anifeiliaid ond nid yw rhoi ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7