10.1 – VAR/2025/43 - High Tide, Ffordd Ravenspoint, Bae Trearddur
10.2 – VAR/2025/61 – Mount Alaw, Llanddeusant
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 VAR/2025/43 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (12) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio V2191b (cais manwl ar gyfer codi 5 byngalo) er mwyn diwygio'r dyluniad ar dir ger High Tide, Ravenspoint Road, Bae Trearddur
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
10.2 VAR/2025/61 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (13) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio 47C152 (newid defnydd yr adeilad allanol i annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn diwygio'r dyluniad ar dir gyferbyn â Mount Alaw, Llanddeusant
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
Cofnodion:
10.1 VAR/2025/43 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (12) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif V2191b (cais manwl ar gyfer codi 5 byngalo) er mwyn diwygio’r dyluniad ar dir ger High Tide, Ravenspoint Road, Bae Trearddur.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo er bod y cynnig yn groes i bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Mr Elfed Williams, asiant yr ymgeisydd, o blaid y cais. Dywedodd bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ym 1973 i godi 5 byngalo ar y safle. Ym 1978 crëwyd mynedfa a rhan o’r ffordd i mewn i’r safle ac felly mae’r gwaith ar y datblygiad wedi dechrau. Yn 2008 derbyniwyd Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon i brofi bod y gwaith wedi dechrau. Aeth ymlaen i ddweud mai cais yw hwn i ddiwygio amod (12) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) er mwyn newid dyluniad yr anheddau. Byddant ar yr un ôl troed, bydd dwy fynedfa i’r safle a byddant yn defnyddio’r un ffordd fynediad. Bydd y cynnig hefyd yn diogelu bywyd gwyllt o amgylch y safle. Bydd yr anheddau deulawr yn mesur 158m2 o’i gymharu â 147m2 yn y cais blaenorol. Mae’r Swyddogion Cynllunio yn cydnabod bod y cynlluniau diwygiedig yn cynnig gwelliant o ran maint, gosodiad y fynedfa a gofynion ecolegol. Nid oes gan y Swyddog Ecolegol na’r Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd cynllunio wedi’i roi i godi 5 annedd marchnad agored ar y safle ar 30 Tachwedd, 1973. Cyflwynwyd cais am Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon a phrofwyd bod gwaith hanfodol wedi dechrau ar y safle ac felly mae’r caniatâd ar gyfer 5 annedd wedi cael ei ddiogelu. Nododd bod caniatâd wedi cael ei roi ym 1973 i godi 5 annedd marchnad agored ar y safle ac yn dilyn hyn cyflwynwyd cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon a phrofwyd bod gwaith hanfodol wedi dechrau ar y safle. O ganlyniad, mae caniatâd cynllunio rhif V/2191B wedi cael ei weithredu’n gyfreithlon ac mae’r caniatâd ar gyfer 5 annedd marchnad agored wedi cael ei ddiogelu. Cais yw hwn i newid dyluniad, maint a gosodiad yr unedau preswyl fel eu bod yn cyd-fynd yn well â safonau a gofynion modern. Bydd yr anheddau o ansawdd uchel a byddant yn cydymffurfio â deddfwriaethau a pholisïau cyfredol. Bydd gwelliannau bioamrywiaeth yn cael eu cyflwyno yn ogystal. Ystyrir bod yr effaith ar ecoleg, y Gymraeg, mwynderau eiddo cyfagos, priffyrdd a draenio yn dderbyniol. Roedd y Swyddog yn argymell caniatáu’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Lleol, nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r newidiadau ac roedd o’r farn bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn welliant Dywedodd y dylai’r ymgeisydd ystyried rhoi enw Cymraeg ar y datblygiad yn hytrach na High Tide. Cadarnhaodd yr Asiant bod enw Cymraeg wedi cael ei ystyried ar gyfer y datblygiad. Bydd y datblygwr yn gofyn i Gyngor Cymuned Trearddur gynnig enw Cymraeg ar gyfer yr ystâd.
Cynigiodd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10