Mater - cyfarfodydd

Corporate Scorecard - Quarter 3, 2025/26

Cyfarfod: 24/03/2026 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 3, 2025/26 pdf eicon PDF 766 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad y Cwsmer.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 3 2025/26 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth a’r gwasanaeth perthnasol yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol a Llesiant (ail-gyfeirio plant o fewn 12 mis); Tai (ail-osod eiddo gwag a gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (nifer y contractau angori blynyddol ac archwilio busnesau risg uchel i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff o’r cartref) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unol â’r amserlen).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2025/26 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae'r adroddiad yn cyflwyno perfformiad y Cyngor yn erbyn amcanion allweddol Cynllun y Cyngor 2023-28 ar ddiwedd y trydydd chwarter.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a ddangosodd fod 86% o'r dangosyddion oedd â thargedau a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter wedi perfformio'n dda ac wedi cael sgôr Gwyrdd neu Felyn. Ar hyn o bryd mae wyth dangosydd yn Goch neu Ambr. Mae'r rhain yn ymwneud â'r meysydd canlynol –

 

·      Gofal Cymdeithasol a Llesiant - mae ail-atgyfeirio plant o fewn 12 mis yn uwch na'r targed oherwydd amgylchiadau nad oes modd eu rhagweld yn hytrach na methiannau proses

·      Tai – mae'r amseroedd ailosod ar gyfer eiddo gwag yn parhau i fod yn uwch na'r targed, er bod perfformiad yn gwella. Mae cyflwyno Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl wedi cael ei ohirio oherwydd oedi o ran cymeradwyo, prinder contractwyr ac ôl-groniad.

·      Economi – mae nifer y contractau angori yn parhau i fod yn is na'r targed oherwydd gostyngiad yn y galw a mwy o gystadleuaeth gan farinas. Mae oedi o ran arolygiadau hylendid bwyd (busnesau risg uchel) wedi'u hachosi gan flaenoriaethu'r cynllun trwyddedu gweithdrefnau arbennig newydd.

·      Newid Hinsawdd – mae cyfraddau ailgylchu domestig yn is na'r targed, gyda thywydd sychach yn cyfrannu at ostyngiad o ran casglu gwastraff gwyrdd

·      Iechyd y Cyngor Cyfan – y Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) yn parhau i fod yn is na'r targed o 90%, er bod disgwyl gwelliannau yn sgil cyflwyno system CRM newydd.

 

Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw hefyd at enghreifftiau o berfformiad cryf yn ystod y chwarter, fel yr amlinellir yn adran 2.3 o'r adroddiad. Mae'r rhain yn cynnwys mwy o ddefnydd o Daliadau Uniongyrchol, cyfranogiad uchel yng ngweithgareddau Môn Actif, penderfynu ar 96% o'r ceisiadau cynllunio ar amser, dangosyddion cyflwr ffyrdd yn perfformio'n dda, 100% o blant yn yr Uned Gymraeg yn bodloni’r disgwyliadau trochi a dargedwyd, a gostyngiad mewn ôl-ddyledion rhent.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Mawrth 2026, lle ystyriwyd adroddiad cerdyn sgorio Ch3. Nododd y pwyllgor y perfformiad cryf dros y cyfnod, gydag 86% o Ddangosyddion Perfformiad yn perfformio'n dda yn erbyn eu targedau. Canolbwyntiodd yr Aelodau yn benodol ar y meysydd tanberfformiad a bu iddynt geisio sicrwydd bod y rhain yn cael eu rheoli’n ofalus a bod disgwyl iddynt wella. Ar ôl derbyn sicrwydd ynghylch nifer o bwyntiau, penderfynodd y pwyllgor argymell yr adroddiad a'r mesurau lliniaru a amlinellir ynddo, i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Cydnabu aelodau’r Pwyllgor Gwaith y perfformiad cryf cyson yn y trydydd chwarter a nododd y meysydd perfformiad rhagorol, gan ddiolch i'r staff am eu gwaith a'u hymrwymiad parhaus. Nodwyd hefyd fod adroddiad y cerdyn sgorio yn darparu ciplun a gymerwyd cyn gosod cyllideb 2026/27, lle dyrannwyd buddsoddiad wedi'i dargedu i feysydd sy'n tanberfformio e.e.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6