7 Fframwaith ar gyfer Rhyddhad Trethi Busnes Dewisol - Elusennau a Sefydliadau Dielw
PDF 668 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo ymestyn y polisi cyfredol am gyfnod o flwyddyn, hyd at 31 Mawrth 2027.
· Bod y Cyngor yn ymgynghori gyda’r sefydliadau hynny sy’n derbyn rhyddhad drwy’r polisi ar hyn o bryd i benderfynu ar y polisi o fis Ebrill 2027 ymlaen.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ymestyn y Polisi Rhyddhad Trethi Busnes Dewisol ar gyfer elusennau a sefydliadau dielw am flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2027 i'w ystyried
Ar y pwynt hwn, bu i’r Cynghorwyr Neville Evans, Gary Pritchard ac Ieuan Williams ddatgan buddiant personol yn unig fel aelodau/ymddiriedolwyr elusennau a/neu sefydliadau dielw.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan nodi y bydd ailbrisio ardrethi annomestig yn dod i rym o 1 Ebrill 2026 ochr yn ochr â newidiadau i gynlluniau rhyddhad eraill a threfniadau trosiannol. Yng ngoleuni hyn, ystyriwyd y byddai cyflwyno newid ychwanegol i'r polisi rhyddhad trethi ar hyn o bryd yn amhriodol ac y gallai effeithio ymhellach ar sefydliadau a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig.
Mae'r polisi presennol yn darparu swm sylweddol o gymorth ariannol i nifer fawr o elusennau a sefydliadau dielw ac mae'n parhau i fod yn fforddiadwy, er y bydd newidiadau i brisiadau eiddo a lefel y lluosydd yn newid y gost gyffredinol o ddarparu'r rhyddhad. Drwy ohirio gweithredu’r polisi newydd, bydd hefyd yn galluogi’r Cyngor i bennu cost y polisi yn 2026/27, a all ddylanwadu ar y polisi o fis Ebrill 2027 ymlaen. Cynigir hefyd fod y Cyngor yn ymgynghori â sefydliadau sy'n derbyn rhyddhad ar hyn o bryd drwy'r polisi i helpu i bennu'r polisi o 2027 ymlaen.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo ymestyn y polisi cyfredol am gyfnod o flwyddyn, hyd at 31 Mawrth 2027.
· Bod y Cyngor yn ymgynghori gyda’r sefydliadau hynny sy’n derbyn rhyddhad drwy’r polisi ar hyn o bryd i benderfynu ar y polisi o fis Ebrill 2027 ymlaen.