10. Gwydnwch Croesi’r Fenai
PDF 1 MB
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Codi ymwybyddiaeth a phroffil yr adroddiad trwy ei rannu â’r holl randdeiliaid rhanbarthol (sector cyhoeddus – Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a.y.y.b.) a phartneriaid yn y sector preifat.
· Rhannu’r adroddiad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Llywodraeth y DU a Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni Llywodraeth Cymru a’r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth.
· Trefnu cyfarfod â’r gweinidogion uchod i drafod dull cydweithredol o fynd i’r afael â problem Croesi’r Fenai, cytuno ar strwythurau llywodraethu ac amserlen arfaethedig ar gyfer y camau nesaf, a sicrhau fod cynnydd yn digwydd.