12. Gweddill y Ceisiadau
PDF 3 MB
12.1 – FPL/2026/85 – 31 a 32 Tyddyn To, Porthaethwy
12.2 – FPL/2026/135 – Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni
12.3 – FPL/2026/102 - Canolfan Ailgylchu Domestig Gwalchmai, Ffordd Caergybi, Gwalchmai
12.4 – FPL/2026/69 - Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 FPL/2026/85 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd dau uned fanwerthu ar y llawr gwaelod (Dosbarth Defnydd A1) i ddau uned breswyl fforddiadwy (Dosbarth Defnydd C3) ynghyd ag addasiadau allanol yn 31 a 32 Tyddyn To, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2026/135 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd o Ganolfan Ieuenctid ar y llawr gwaelod (Defnydd dosbarth D1) i Gaffi (Defnydd Dosbarth A3) a Man Chwarae Meddal (Defnydd Dosbarth D2), newid defnydd y Caffi ar y llawr cyntaf (Defnydd Dosbarth A3) i fod yn rhan o'r ganolfan hamdden (Defnydd Dosbarth D2) ynghyd ag addasiadau allanol yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.3 FPL/2026/102 – Cais cynllunio rhannol ôl-weithredol ar gyfer symud yr adeilad modiwlaidd presennol oddi ar y safle, ynghyd â chodi adeilad modiwlaidd yn ei le ar gyfer defnydd swyddfa ac ystafell cyfarfodydd yng Nghanolfan Ailgylchu Domestig Gwalchmai, Ffordd Caergybi, Gwalchmai.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.4 FPL/2026/69 – Cais llawn ar gyfer lleoli arsyllfa seryrol ac adeilad addysgol yn ogystal â datblygiad cysylltiedig yn Lleoliad: Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.