Mater - cyfarfodydd

Changes to the Council Constitution

Cyfarfod: 06/12/2012 - Cyngor Sir Ynys Môn (Eitem 7.)

7. Newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor pdf eicon PDF 557 KB

(a)Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

 

Dweud fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 18 Hydref 2012, wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir:-

 

Ei fod yn ymestyn cylch gorchwyl y Pwyllgor i ymgymryd â chyfrifoldebau mewn perthynas â’r rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer aelodau, gan gynnwys eu sgiliau TG a chefngaeth ar gyfer y sgiliau hynny;

Bod y Pwyllgor yn cynnal tri chyfarfod cyffredinol yn ychwanegol at ei Gyfarfod Blynyddol ym mhob Blwyddyn Ddinesig gyda’r hawl i drefnu

cyfarfodydd eraill yn ôl yr angen”.

Ystyried yr uchod ac os yn cytuno diwygio Paragraff 3.4.12 Cyfansoddiad y Cyngor (Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) i gyd-fynd â hynny.

 

(b) Adolygu Polisiau Twyll a Llygredd

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio).

[Sylwer: Cafodd y polisïau hyn eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio ar 25 Medi, 2012 a chan y Pwyllgor Gwaith ar

15 Hydref, 2012]