13.1 – 33C258A – Cefn Poeth, Penmynydd (90)
13.2 – 37LPA968/CC – Bryn Derwydd, Brynsiencyn (92)
Penderfyniad:
13.1 33C258A Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol i godi estyniad i'r sied amaethyddol er mwyn cadw anifeiliaid yn 'Cefn Poeth', Penmynydd
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth.
13.2 Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol i godi sied
amaethyddol i gadw peiriannau a bwyd yn 'Bryn Derwydd', Brynsiencyn.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth.
Cofnodion:
13.1 33C258A Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol i godi estyniad i'r sied amaethyddol er mwyn cadw anifeiliaid yn 'Cefn Poeth', Penmynydd
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y penderfynwyd nad oedd angen caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol i'r datblygiad uchod a'i fod yn ddatblygiad a ganiateir. Felly, er gwybodaeth y rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth.
13.2 Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol i godi sied amaethyddol i gadw peiriannau a bwyd yn 'Bryn Derwydd', Brynsiencyn
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y penderfynwyd nad oedd angen caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol i'r datblygiad uchod a'i fod yn ddatblygiad a ganiateir. Felly, er gwybodaeth yn unig y rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth.