Mater - cyfarfodydd

Cyflwyno Deisebau

Cyfarfod: 16/04/2013 - Cyngor Sir Ynys Môn (Eitem 4)

Heddlu Gogledd Cymru

Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sydd newydd ei benodi ar gyfer Gogledd Cymru, sef Mr Winston Roddick, CB, QC yn gwneud cyflwyniad i’r Cyngor.

 

(Bydd sesiwn fer yn dilyn er mwyn i’r Aelodau gael gofyn cwestiynau a chael atebion iddynt).

 

Cofnodion:

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Gomisiynydd yr Heddlu.

 

Rhoes y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sydd newydd ei benodi ar gyfer Gogledd Cymru, Mr. Winston Roddick, CB, QC, gyflwyniad mewn perthynas â’r gwahoddiad a roddodd i drigolion Gogledd Cymru i rannu eu teimladau ynghylch plismona a throsedd yn lleol.

 

Byddai’r sylwadau a fynegwyd yn cael eu defnyddio i ddatblygu Cynllun Heddlu a fyddai’n gosod cyfeiriad clir ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Ngogledd Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Roedd y Comisiynydd Heddlu eisiau i’r Cynllun hwn adlewyrchu anghenion y cyhoedd yng Ngogledd Cymru a cheisiodd farn y gymuned leol am y materion plismona a oedd yn eu pryderu.

 

Yn dilyn anerchiad y Comisiynydd, cafwyd sesiwn fer ar gyfer cwestiynau ac atebion yn arbennig felly mewn perthynas â’r problemau y daethpwyd ar eu traws ar yr Ynys.  Soniwyd hefyd am y ffaith y dylid ystyried codi plac coffa yn yr Orsaf Heddlu newydd yn Llangefni efallai er cof am y diweddar Dr.Tom Parry Jones o Borthaethwy, a ddyfeisiodd yr anadliedydd electronig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Comisiynydd am ei anerchiad ac ar ran y Cyngor, dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd ac roedd yn edrych ymlaen at ymweliadau pellach gan y Comisiynydd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.