6 Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio PDF 467 KB
6.1 - 39C285D - Lôn Gamfa, Porthaethwy
Penderfyniad:
6.1 39C285D – Lôn Gamfa, Porthaethwy
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Cofnodion:
6.1 39C285D – Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod gwaith ymgynghori yn mynd ymlaen ar hyn o bryd mewn perthynas â gwybodaeth ychwanegol/newydd ynglŷn â’r cais hwn yn ymwneud â mynedfa i’r safle a bydd y cais yn destun adroddiad unwaith y bydd y cyfnod rhybudd wedi dod i ben. Am y rheswm hwnnw, yr argymhelliad oedd gohirio ystyried y cais.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.