Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 03/04/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 564 KB

7.1 - 19C313A - Stâd Pentrefelin a Waenfawr, Caergybi

Penderfyniad:

7.1 19C313A – Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais

 

Cofnodion:

7.1 19C313A – Cais amlinellol i godi 22 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir rhwng Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi.

 

(Dywedodd y Cynghorwyr R.L.Owen a Jim Evans nad oeddent wedi bod yn bresennol ar yr ymweliad safle yng nghyswllt y cais hwn ac na fyddent yn pleidleisio ar y mater).

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod llythyrau wedi eu derbyn gan asiant yr ymgeisydd ers i’r rhaglen gael ei chyhoeddi a bod cyfarfod wedi cael ei drefnu ar 17 Ebrill gyda’r Adran Priffyrdd i drafod y fynedfa i’r safle.  Dywedodd y Swyddog ei fod am ofyn felly i’r Pwyllgor ohirio ystyried y cais yn y cyfarfod heddiw fel y gellid cynnal y cyfarfod hwn.  Efallai y bydd yr hyn a drafodir yn y cyfarfod hwnnw a’r canlyniad yn cael dylanwad ar y cais, felly roedd y Swyddogion yn barod i ohirio unrhyw ystyriaeth ar y cais.

 

Mynegodd y Cynghorydd W.J.Chorlton nad oedd yn hapus ynglŷn ag oedi pellach o ystyried yr amser y bu’r cais ar y gweill, ac awgrymodd y gellid delio gyda mater y fynedfa drwy osod amod yn dweud bod yn rhaid dod i gytundeb ynglŷn â’r fynedfa i’r safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod mater y fynedfa yn un bwysig a bod angen ei drafod ac felly roedd am gynnig y dylid gohirio unrhyw ystyriaeth ar y cais.  Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric Roberts.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.