7 Ceisiadau yn Codi PDF 564 KB
7.1 - 19C313A - Stâd Pentrefelin a Waenfawr, Caergybi
Penderfyniad:
7.1 19C313A – Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais
Cofnodion:
7.1 19C313A – Cais amlinellol i godi 22 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir rhwng Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi.
(Dywedodd y Cynghorwyr R.L.Owen a Jim Evans nad oeddent wedi bod yn bresennol ar yr ymweliad safle yng nghyswllt y cais hwn ac na fyddent yn pleidleisio ar y mater).
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod llythyrau wedi eu derbyn gan asiant yr ymgeisydd ers i’r rhaglen gael ei chyhoeddi a bod cyfarfod wedi cael ei drefnu ar 17 Ebrill gyda’r Adran Priffyrdd i drafod y fynedfa i’r safle. Dywedodd y Swyddog ei fod am ofyn felly i’r Pwyllgor ohirio ystyried y cais yn y cyfarfod heddiw fel y gellid cynnal y cyfarfod hwn. Efallai y bydd yr hyn a drafodir yn y cyfarfod hwnnw a’r canlyniad yn cael dylanwad ar y cais, felly roedd y Swyddogion yn barod i ohirio unrhyw ystyriaeth ar y cais.
Mynegodd y Cynghorydd W.J.Chorlton nad oedd yn hapus ynglŷn ag oedi pellach o ystyried yr amser y bu’r cais ar y gweill, ac awgrymodd y gellid delio gyda mater y fynedfa drwy osod amod yn dweud bod yn rhaid dod i gytundeb ynglŷn â’r fynedfa i’r safle.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod mater y fynedfa yn un bwysig a bod angen ei drafod ac felly roedd am gynnig y dylid gohirio unrhyw ystyriaeth ar y cais. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric Roberts.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.