Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 03/04/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau yn Groes i Bolisi pdf eicon PDF 430 KB

10.1 - 38C180D - Gilfach Glyd, Llanfechell

Penderfyniad:

10.1 38C180D - Gilfach Glyd, Llanfechell

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig..

 

Cofnodion:

10.1 38C180D – Cais amlinellol i godi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir yn Gilfach Glyd, Llanfechell 

 

Roedd y cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn groes i bolisi ond gyda’r Swyddogion yn bwriadu ei ganiatáu.

 

Tynnodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio sylw’r Pwyllgor at y ffaith bod cais amlinellol i godi annedd a chreu mynedfa newydd wedi ei gymeradwyo ym Mehefin 2011 er bod hwnnw ar gyfer plot o faint llai ond mae’r cais sydd o dan ystyriaeth yn awr yn fwy ac mae lleoliad yr annedd yn wahanol a dyna’r rheswm pam fod angen ei gyflwyno a’i

ailgymeradwyo. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones, yr Aelod Lleol, nad oedd yn dymuno gwrthwynebu’r cais mewn egwyddor ond ei fod yn dymuno tynnu sylw at y ffaith bod pibell carthffosaeth ar y safle a bod angen felly caniatáu pellter o 12 metr rhwng y bibell ag unrhyw adeilad arfaethedig ac mai hynny oedd y rheswm dros ail-leoli’r datblygiad.  Roedd hefyd yn dymuno nodi bod y safle ar ffin terfyn dangosol Mynydd Mechell ac oherwydd yr angen i leoli’r adeilad ymhell oddi wrth y bibell carthffosaeth, bydd yr annedd arfaethedig yn awr yn sefyll ar ei phen ei hun ac yn fwy amlwg.  Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn fodlon gyda’r cais fel ag yr oedd, ond roedd angen gwneud sylw bod ceisiadau tebyg wedi eu gwrthod ac roedd yn credu bod y cais hwn reit ar ffin y dehongliad o bolisi.

 

Cafwyd cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynglŷn â’r agwedd i’w chymryd mewn achosion o’r fath yn arbennig o ran bod yn gyson ac o ystyried y bydd y datblygiad arbennig hwn yn awr yn fwy amlwg ac wedi ei leoli tua chanol y cae. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yn rhaid asesu pob cais a gwneud penderfyniad yn seiliedig ar rinweddau’r cais unigol a chan roi sylw i’r ystyriaethau a’r wybodaeth oedd gerbron.  Ategodd y Cadeirydd bod caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar ran o’r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R.L.Owen.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn ei adroddiad.