11 Cynigion Cynllunio a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 535 KB
11.1 - 36C323 -
Awel Haf,
Llangristiolus
11.2 - 48C182 - Bryn
Twrog, Gwalchmai
Penderfyniad:
11.1
36C323 - Awel Haf, Llangristiolus
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
11.2
48C182 - Bryn Twrog, Gwalchmai
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais a hynny’n groes i
argymhelliad y Swyddog.
Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn awtomatig yn
cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf fel y gall swyddogion baratoi
adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo’r cais.
Cofnodion:
11.1 36C323 – Cais amlinellol i godi annedd ynghyd âg
adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir ger Awel Haf, Llangristiolus
Daethpwyd a’r cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr
ymgeisydd yn perthyn i Aelod Lleol. Roedd y cais wedi cael ei
sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sydd yn ofynnol o dan
baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Rob Hughes ddod ymlaen i siarad
gerbron y Pwyllgor o blaid y cais.
Nododd
Mr Hughes y pwyntiau canlynol –
- Mae’r cais yn
disgyn yn amlwg dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys a Pholisi HP4 y Cynllun Datblygu Unedol a
Stopiwyd. Roedd yn credu ei fod yn estyniad bychain rhesymol i
anheddiad diffiniedig Llangristiolus.
- Ystyrir bod ceisiadau am
blotiau unigol ar ffin anheddiad yn dderbyniol odan Bolisi
50. Roedd yn credu bod
y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 oherwydd ei fod wedi ei
leoli o fewn ffin resymol a naturiol a diffinedig yr
anheddiad. Mae yna 3
annedd sy’n ymestyn y tu hwnt i’r cais arfaethedig ar
ochr arall y B4422 ac o fewn y parth 40mya.
- Er ei fod yn cael ei
dderbyn bod y plot mewn cae amaethyddol agored, nid oedd yr
ymgeisydd yn ystyried ei fod yn cyfrannu’n sylweddol at
gymeriad yr ardal.
Byddai’n gwerthfawrogi derbyn safbwynt y Swyddog ar y pwynt
hwn.
- Ni all y ffaith y
gallai’r cais olygu y byddai fwy o ddatblygu yn y dyfodol ar
y tir amaethyddol hwn fod yn ystyriaeth o bwys oherwydd bod yn
rhaid penderfynu ar bob cais ar eu rhinweddau eu
hunain. Ni
ddylai’r defnydd a wneir o’r tir yn y dyfodol fod yn
ffactor gyda phenderfynu’r cais.
- Barn y Swyddog yn yr
adroddiad oedd y byddai’r cais yn ymestyn y ffurf adeiledig
ymhellach i mewn i’r cefn gwlad ac y byddai felly yn creu
ymwthiad annerbyniol i’r dirwedd gyda hynny’n niweidio
cymeriad ac amwynder yr ardal. Fodd bynnag, byddai’r
ymgeisydd yn cymharu’r cais hwn i safleoedd eraill ger llaw
e.e. Capel Mawr - oedd yn cael ei ddiffinio fel clwstwr ac nid
anheddiad lle gwelwyd pum datblygiad tebyg yn cael eu
caniatáu o fewn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
- Mae argraffiad 5 Polisi
Cynllunio Cymru yn dweud y dylai datblygiadau newydd fod wedi ei
hintegreiddio a’u cysylltu’n dda i batrwm presennol yr
anheddiad. Ym marn yr
ymgeisydd, roedd y cais hwn yn cydymffurfio gyda hynny oherwydd bod
y terfyn presennol yn ymestyn ymhellach na’r hyn oedd yn cael
ei gynnig yn y cais hwn. Ni all datblygu rhubanaidd felly fod yn
ystyriaeth o bwys yn yr achos hwn.
- Roedd yr ymgeisydd yn
credu na ddylid ystyried ymdoddiad yn y cais hwn oherwydd bod y
terfyn diffinedig i’r anheddiad wedi ei sefydlu’n barod
a’i fod yn ymestyn yn sylweddol bellach na’r hyn a
gynigir dan y cais hwn.
- Roedd yr ymgeisydd am
gwestiynu sut y byddai’r cais hwn yn rhagfarnu gweithrediad
Polisi 50 oherwydd y dylid ystyried pob cais ar ei rinweddau ei
hun.
- Mae Llangristiolus yn
bentref poblogaidd gyda gwasanaethau ardderchog. Mae’r cynnig ...
Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11