Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 03/04/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 955 KB

12.1 - 12C266H - ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Biwmares

12.2 - 40C48E/EIA - Gorsaf Bad Achub, Moelfre

12.3 - Cyfleusterau Cyhoeddus Ynys Lawd, Ynys Lawd, Caergybi

Penderfyniad:

12.1 12C266H - ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Biwmares

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 40C48E/EIA – Gorsaf y Bad Achub, Moelfre

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.3 46LPA972/CC Toiledau Cyhoeddus Ynys Lawd, Caergybi

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

 

Cofnodion:

12.1 12C266H - Cais i ddiwygio amodau (04) a (06) ar ganiatad cynllunio rhif 12C266G i ganiatau cyflwyno manylion lefelau slabiau arfaethedig yr adeilad(au) a chynllun ar gyfer darparu a gweithredu system draenio dŵr wyneb ar ôl cychwyn gwaith ar y safle yn ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Biwmares

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn sydd biau’r tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod y Swyddog Draenio ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cadarnhau bod y cais yn un derbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

(Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd R.L.Owen ar y mater)

 

12.2 40C48E/EIA – Dymchwel yr adeilad bad achub a’r llithrfa bresennol ynghyd â chodi adeilad bad achub a llithrfa newydd yn Gorsaf Bad Achub, Moelfre.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn destyn Asesiad Effaith Amgylcheddol.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr Elfed Jones, un sy’n gwrthwynebu’r cais, i annerch y Pwyllgor.

 

Dywedodd Mr Jones ei fod yn siarad o’i galon ar y mater hwn fel cyn aelod o Fad Achub Moelfre am 36 o flynyddoedd a’i fod yn bresennol ar ran nifer o drigolion y pentref a oedd hefyd yn gwrthwynebu’r cais - nid oherwydd nad oeddynt am weld bad achub newydd ond oherwydd y byddai’r adeilad arfaethedig ar gyfer y bad achub sydd mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol bron dwywaith cymaint â’r adeilad cyfredol.  Petai unrhyw un eisiau codi tŷ neu dyrbin gwynt ar yr arfordir ym Moelfre, ni fyddid yn rhoddi caniatâd.  Er bod mater y bad achub yn bwnc sentimental iawn ac hynny i’w ddeall, maen ffaith hefyd y bydd yr adeilad yno am 100 mlynedd.  Mae’r ymgeiswyr eisiau cau’r llwybr arfordirol am 2 flynedd ac adeiladu lôn - dygodd Mr Jones sylw at y ffaith bod y ffordd i lawr i dŷ’r bad achub yn hynod beryglus a bod ceir yn dod i lawr y lon fel gwallgofon pan geir galwad am wasanaeth y bad.  Y teimlad yw bod yr RNLI wedi mynd o gwmpas pethau yn chwithig ac wedi prynu’r dodrefn cyn codi’r tŷ.  Oni ddylai’r Sefydliad fod wedi gofyn am ganiatâd i adeiladu’r tŷ yn gyntaf cyn dod a’r dodrefn i mewn?  Dywedodd Mr Jones ei fod o’r farn bod y Sefydliad wedi trin trigolion Moelfre yn warthus a’i fod o ei hun a’i deulu o Foelfre.  Pwysleisiodd nad oedd trigolion yn erbyn y bad achub ond nad ydynt yn gweld pam mae Moelfre angen tŷ bad achub ar y raddfa a gynigir.  Petai’r Sefydliad eisiau bad achub o’r safon hon yn yr ardal dylid bod wedi ei lleoli mewn man arall ym Mhorth Amlwch.  Gofynnodd i Aelodau’r Pwyllgor wrth benderfynu ar y cais, feddwl am drigolion Moelfre a fydd yn gorfod byw gyda’r adeilad arfaethedig am y 100 mlynedd nesaf  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12