13.1 - 11C591A/TPO - 16-21 Bro Trehirion, Amlwch
Penderfyniad:
13.111C591A/TPO - 16-21 Bro Trehirion, Amlwch
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
13.1 11C591A/TPO – Cais i dopio a thocio 6 o goed sydd wedi
eu diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed ynghyd â thorri un
goeden sydd wedi ei diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed yn 16-21 Bro
Trehirion, Amlwch.
Roedd y cais yn gais ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno. Penderfynwyd cymeradwyo’r cais gydag amod bod rhaid i’r gwaith gwrdd â Safon Brydeinig 2998:2010 Gwaith Coed.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth fel y cafodd ei chyflwyno.