11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 441 KB
11.1 – 33C258B/RUR – Cefn Poeth, Penmynydd
Penderfyniad:
11.1 33C258B/RUR – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd amaethyddol, altro’r fynedfa i gerbydau ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Cefn Poeth, Penmynydd.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb Adran 106.
Cofnodion:
11.1 33C258B/RUR – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd amaethyddol, altro’r fynedfa i gerbydau ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Cefn Poeth, Penmynydd.
Gwnaeth y Cynghorydd Victor Hughes ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.
Roedd y cais wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff perthnasol fel sydd wedi ei amlinellu yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Roedd y Swyddog Monitro wedi adolygu’r ffeil ond nid oedd wedi codi unrhyw bryderon.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Rhys Davies annerch y Pwyllgor i siarad o blaid y cais.
Dywedodd Mr Davies mai cais am annedd amaethyddol i’r gogledd o Benmynydd oedd hwn. Mae’r safle yn agos i gwrtil y ffarm a hwn yw’r safle agosaf yr oedd yr ymgeisydd yn gallu dod o hyd iddo sy’n addas ac sy’n agos i’r adeiladau amaethyddol, sef yr hyn y mae’r polisiau cynllunio yn annog ymgeiswyr i wneud. Mae’r adroddiadau gyda’r cais yn dangos bod angen annedd fferm ychwanegol ac mae’r datblygiad arfaethedig wedi ei fwriadu i’w ddefnyddio gan fab y fferm sy’n dymuno parhau i ffermio gyda’i deulu ar y fferm hon. Mae’r cais yn cwrdd â’r holl feini prawf sy’n ofynnol o dan y polisi cenedlaethol er mwyn cael caniatâd am annedd amaethyddol. Gorffennodd Mr Davies trwy ddweud y byddai’n fodlon ateb unrhyw gwestiynau a all godi mewn perthynas â’r cais.
Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor unrhyw gwestiynau i Mr Davies.
Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod polisïau cenedlaethol a lleol yn caniatáu codi anheddau yn y cefn gwlad os ydynt i’w defnyddio i ddibenion megis amaethyddiaeth. Roedd rhaid cwrdd â rhai meini prawf ac mae’r Swyddogion yn fodlon bod y rheini wedi eu bodloni yn yr achos hwn. Mae Swyddogion felly’n fodlon rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad ar yr amod y bydd yn cael ei ddefnyddio i ddibenion amaethyddol a bod cytundeb 106 yn cael ei gynnwys gyda’r caniatâd i sicrhau nad yw’r fferm yn cael ei thorri i fyny.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.O. Jones.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb Adran 106.