Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 05/06/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 830 KB

13.1 – 38C185C – Maes Mawr, Llanfechell

13.2 – 38C236A – Tyddyn Paul, Llanfechell

Penderfyniad:

13.1  38C185C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gyda hwb hyd at 24.6m o uchder, diamedr rotor hyd at 19.2m ac uchder o 34.2m i flaen y llafn fertigol ar dir ym Maes Mawr, Llanfechell. 

 

Penderfynwyd:

 

·         Peidio â chymeradwyo argymhelliad y Swyddog i roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio nad yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn dymuno gwrthwynebu’r apêl am y rheswm fod y Pwyllgor yn gwrthod y cais oherwydd ei effeithiau niweidiol ar y dirwedd; ei effeithiau gweledol andwyol; effeithiau ar fwynderau; effeithiau posibl ar iechyd a’i agosrwydd at eiddo.

·         Bod y mater yn cael ei ohirio i’r cyfarfod nesaf fel y gall y Swyddogion adrodd yn ôl ar resymau’r Pwyllgor dros wrthod.

 

13.2  38C236A - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw ai peidio i godi sied amaethyddol i bwrpas storio ar dir yn Tyddyn Paul, Llanfechell.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

Cofnodion:

13.1 38C185C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gyda hwb hyd at 24.6m o uchder, diamedr rotor hyd at 19.2m ac uchder o 34.2m i flaen y llafn fertigol ar dir ym Maes Mawr, Llanfechell. 

 

Roedd y cais wedi ei adrodd i’r pwyllgor yn wreiddiol oherwydd iddo gael ei benderfynu na fyddai pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio yng nghyswllt datblygiadau tyrbinau gwynt.  Roedd yr ymgeisydd ar y pryd yn Gynghorydd ar Gyngor Sir Ynys Môn.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd Kenneth Hughes allan o’r cyfarfod ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio arno.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi penderfynu cymeradwyo’r cais ym mis Tachwedd 2012.  Ni ryddhawyd y caniatâd cynllunio ffurfiol tra roedd cwynion ffurfiol yn cael eu hystyried gan Swyddog Monitro’r Cyngor.  Cafwyd her gyfreithiol wedi hynny i’r Uchel Lys ac mae hwnnw’n parhau.  Yn ystod yr uchod, fe apeliodd yr ymgeisydd oherwydd methiant i benderfynu a dilyswyd yr apêl gyda hynny’n golygu bod yr hawl dros y cais yn awr yn gorwedd gyda’r Arolygiaeth Gynllunio a fydd yn gwneud penderfyniad ar y cais.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud bod y cais yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor am nifer o resymau fel oedd i’w weld yn yr adroddiad yn cynnwys er gwybodaeth; i asesu effaith y cyfarwyddyd cynllunio atodol ar ynni gwynt ar y tir a fabwysiadwyd yn Ionawr 2013 ac mewn ymateb i lythyrau a dderbyniwyd yn dilyn y penderfyniad i roi caniatâd cynllunio.  Roedd yr adroddiad yn delio â’r materion hyn mewn manylder.  Gofynnir i’r pwyllgor yn awr ddod i benderfyniad ynglŷn â safle’r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas â’r apêl.  Roedd y Swyddogion yn ystyried bod y cynnig yn dderbyniol o ran yr egwyddor o ddatblygu; mwynderau gweledol a phreswyl, fflachiadau cysgodion/golau yn cael ei adlewyrchu, sŵn a’r effaith ar yr AHNE.  Tra bod Swyddogion yn cydnabod y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith yn lleol ac y byddai’n strwythur amlwg nid oeddynt yn barnu bod yr effeithiau hynny yn ormodol.  Argymhelliad gwreiddiol y Swyddog oedd caniatáu a’r argymhelliad yn y cyfarfod hwn yw y dylid hysbysu’r Arolygiaeth Cynllunio nad yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn dymuno gwrthwynebu’r apêl ac os yw’r Arolygiaeth yn bwriadu caniatáu’r apêl, bod yr amodau a geir yn yr adroddiad yn cael eu gosod ar y caniatâd. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w benderfynu oherwydd bod yr hawl i benderfynu bellach yn gorwedd gyda’r Arolygiaeth Gynllunio.  Gofynnir i’r Pwyllgor roi arweiniad ar y safiad sydd i’w gymryd mewn perthynas â’r apêl.  Roedd argymhelliad y Swyddog yn parhau i fod yn un o ganiatáu ond ers hynny fe gafwyd newidiadau drwy’r CCA er nad yw’r rhain yn effeithio ar yr argymhelliad.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd ar y mater hwn,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13