Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 04/09/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau yn codi pdf eicon PDF 3 MB

7.1  20LPA962/CC – Fron Heulog, Cemaes

7.2  22C211C – Yr Orsedd, Llanddona

7.3  34C648A – Pwros, Rhosmeirch

7.4  41C8C – Garnedd Ddu, Star

7.5  42C321 – The Sidings, Pentraeth

7.6  47LPA966/CC – Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant

Penderfyniad:

7.1 20LPA962/CC – Cais ôl-ddyddiol i’r trac oedd wedi ei adeiladu yn ddiweddar a gwelliannau i’r fynedfa bresennol ar dir gyferbyn a Fron Heulog, Cemaes.

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

7.2 22C211C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gydag uchafswm uchder i’r hwb o 25m, diametr rotor o 19.24m ac uchafswm uchder o 34.37m ar dir yn Yr Orsedd, Llanddona.

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn yn unol â dymuniad yr ymgeisydd.

 

7.3 34C648A – Cais amlinellol i godi annedd a gwneud gwaith altro i’r fynedfa bresennol ar dir yn Pwros, Rhosmeirch.

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i ganiatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn flaenorol, sef bod y cynnig yn estyniad bychan rhesymol i’r anheddiad.

 

7.4 41C8C – Cais llawn i newid defnydd tir i leoli 33 o garafannau symudol, codi bloc toiledau, adeiladu mynedfa i gerbydau a thirlunio yn Garnedd Ddu, Star.

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad, a chydag amod ychwanegol yng nghyswllt llefydd pasio ychwanegol ar y briffordd.

 

7.5 42C231 – Cais llawn i godi 13 o anneddau newydd a chreu mynedfa newydd ar dir yn The Sidings, Pentraeth.

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi i’r Swyddogion y grym i weithredu wedi i’r cyfnod statudol o ymgynghori cyhoeddus ddod i ben.

 

7.6 47LPA966/CC – Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl, ynghyd â dymchwel yr hen ysgol ar dir Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant.

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn a gofyn i’r ymgeisydd ystyried newid y cais i’w wneud yn fwy derbyniol i breswylwyr.

Cofnodion:

7.1  20LPA962/CC – Cais ôl-ddyddiol mewn perthynas â’r trac oedd wedi ei adeiladu yn ddiweddar a gwelliannau i’r fynedfa bresennol ar dir gyferbyn a Fron Heulog, Cemaes

 

(Datganodd y Cynghorydd W. T. Hughes ddiddordeb personol yn y cais hwn.  Aeth yr Is-Gadeirydd i’r Gadair yn ystod y drafodaeth ar y cais).

 

(Dywedodd y Cynghorwyr Lewis Davies, K. P. Hughes ac R. O. Jones nad oeddynt yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle ac nad oeddynt o’r herwydd am bleidleisio ar y cais hwn).

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion Cynllunio wedi cysylltu gyda’r ymgeisydd (y Cyngor Sir) yn dilyn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i weld beth oedd y posibilrwydd o symud y fynedfa i leoliad arall.  Roedd yr ymgeisydd wedi ymateb drwy ddweud nad oedd hynny’n bosibl ac wedi gofyn i’r Pwyllgor ddelio â’r cais fel y cafodd ei gyflwyno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd A. Griffith bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd N Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

7.2  22C211C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gydag uchafswm uchder i’r hwb o 25m, diametr rotor o 19.24m ac uchafswm uchder o 34.37m ar dir yn  Yr Orsedd, Llanddona

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd y penderfyniad wnaed na fydd pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt.  Ymwelwyd â’r safle ar 21 Awst 2013.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi gofyn am gael gohirio’r cais er mwyn caniatáu iddo ddelio gyda materion a godwyd gan swyddogion mewn perthynas â’r effaith ar y dirwedd.  Nodwyd mai argymhelliad y Swyddogion oedd gwrthod y cais hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn yn unol â dymuniad yr ymgeisydd.

 

(Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes nad oedd wedi pleidleisio ar y cais hwn gan nad oedd yn bresennol ar yr ymweliad safle).

7.3  34C648A Cais amlinellol i godi annedd a gwneud gwaith altro ar y fynedfa bresennol ar dir yn Pwros, Rhosmeirch

(Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies na fyddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais hwn nac yn pleidleisio oherwydd nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion)

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Nodwyd y gwnaed penderfyniad yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 31 Gorffennaf 2003 i ganiatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y safle o fewn ffiniau rhesymegol y pentref.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion yn parhau i fod o’r farn y dylai’r cais gael ei wrthod a nododd ymateb y Swyddogion i resymau’r Aelodau dros  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7