13.1 35LPA929B/CC/LB – Haulfre, Llangoed
13.2 46LPA972/CC – Toiledau Cyhoeddus Ynys Lawd, Ynys Lawd, Caergybi
Penderfyniad:
13.1 35LPA929B/CC/LB – Caniatâd Adeilad
Rhestredig i wneud gwaith altro
mewnol ac allanol yn Haulfre, Llangoed
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
13.2 46LPA972/CC - Cais
llawn i
addasu’r cyn toiled cyhoeddus
yn annedd
yn Cyfleusterau Cyhoeddus,
Ynys Lawd, Caergybi
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Cofnodion:
13.1 35LPA929B/CC/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig i wneud gwaith altro mewnol ac allanol yn Haulfre, Llangoed
Nodwyd y bydd y cais yn cael ei gyfeirio i sylw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
13.2 46LPA972/CC – Cais llawn i addasu’r cyn toiled cyhoeddus yn annedd yn Cyfleusterau Cyhoeddus, Ynys Lawd, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan mai cais gan y Cyngor Sir ydyw ar dir y mae’n berchen arno.
Nodwyd bod caniatâd cynllunio llawn wedi ei roi yn Ebrill 2013 i newid defnydd o’r hen doiled cyhoeddus i fod yn annedd, ynghyd â gwaith altro ac estyn arno. Mae’r ymgeisydd wedi gofyn am fân-newidiadau i’r cais. Mae’r newidiadau yn cynnwys gwneud y 3 ffenestr yn edrychiad ffrynt yn fwy. Ystyrir bod y newidiadau arfaethedig yn dderbyniol ac ni fyddant yn cael effaith ar gymeriad yr adeilad nac yn andwyo mwynderau deiliaid eiddo cyfagos.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.