Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 06/11/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 12 MB

7.1 – 16C119B – Pen yr Orsedd, Engedi

7.2 -  39C285D – Lôn Gamfa, Porthaethwy

7.3 -  46C147D – Tan y Graig, Bae Trearddur

 

7.4 -  46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos  Cae Glas a Kingsland, Caergybi

(NODER : BYDD Y CAIS YMA YN CAEL EI DRAFOD GAN Y PWYLLGOR AM 2.30 p.m.)

Penderfyniad:

7.1  16C119B – Cais llawn i godi adeilad i ddarparu gweithdy a swyddfa yn Pen yr Orsedd, Engedi

 

PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad a wnaed i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gydag amod ychwanegol y bydd y gweithdy a’r swyddfa ar gyfer defnydd yr ymgeisydd ei hun fel saer coed.

 

7.2 39C385D – Cais llawn i godi 17 o dai ar dir yn Lôn Gamfa, Menai Bridge

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

7.3 46C147D – Cais ôl-weithredol i ddefnyddio padog fel safle ar gyfer carafanau symudol a chadw’r ddau gynhwysydd a ddefnyddir fel bloc toiledau a chawodydd, defnyddio’r tir a chadw’r llecyn caled i storio carafanau, cychod a threlars  ar sail fasnachol, defnydd preswyl o un garafan deithiol a chadw’r portacabin a ddefnyddir fel swyddfa ynghyd â gosod gwaith trin carthion a ffos gerrig newydd yn lle’r tanc septig yn Tan y Graig, Trearddur Bay

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau sydd yn yr adroddiad, ynghyd ag amod ychwanegol y dylid lledu’r fynedfa i’r safle.

 

7.4 46C247K/TR/EIA/ECON –  Caiscynllunio hybrid sy'n cynnig: Amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw'n ôl ac eithrio dull

mynediad, ar gyfer : Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys porthdai a bythynnod newydd; Adeilad canolbwynt canolog newydd gan gynnwys derbynfa gyda chyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr isdrofannol dan do, neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai ac adwerthu; Adeilad canolog newydd ar gyfer Marchnad Ffermwyr; Adeilad hamdden a sba canolog newydd; Canolfan chwaraeon dwr a chaffi newydd ar safle'r hen Cwch; Dymchwel y Baddondy ac adeiladu bwyty ar ei safle; Dymchwel adeiladau eraill gan gynnwys tair ysgubor amaethyddol a thair annedd; Darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda

maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r llwybr arfordirol gan gynnwys: Rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar i goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan;

Creu trywydd cerfluniau newydd trwy goetir a llwybrau pren a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; Bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun. Tir yn Cae Glas - Codi llety a chyfleusterau pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 315 o borthdai i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer gweithwyr niwclear; Adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety  ...  view the full Penderfyniad text for item 7

Cofnodion:

7.1  16C119B - Cais llawn i godi adeilad i ddarparu gweithdy a swyddfa ym Mhen yr Orsedd, Engedi

 

Adroddwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2013 y penderfynwyd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog gan mai’r gred oedd y buasai’n diogelu a chadw cyflogaeth yn lleol ac ar yr Ynys.

 

Ategodd y Cynghorydd Bob Parry OBE, Aelod Lleol, ei gefnogaeth i’r cais hwn gan mai gweithdy bychain ar gyfer saer coed oedd.  Dywedodd mai dymuniad yr ymgeisydd oedd cael gweithio yn ymyl ei gartref a chyflogi prentis yn y dyfodol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes y dylid cadarnhau’r penderfyniad i ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad a wnaed i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gydag amod ychwanegol y bydd y gweithdy a’r swyddfa ar gyfer defnydd yr ymgeisydd ei hun fel saer coed.

 

7.2 39C385D – Cais llawn i godi 17 o dai ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

Adroddwyd bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael gwybod am y cais gan ei fod yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu yr oedd Swyddogion o blaid ei ganiatáu.  Ymwelodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion â’r safle ym mis Ionawr 2013 ac ymwelodd yr Aelodau presennol â’r safle ar 16 Hydref 2013.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R.O. Jones.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. 

 

7.3 46C147D - Cais ôl-weithredol i ddefnyddio padog fel safle ar gyfer carafanau symudol a chadw’r ddau gynhwysydd a ddefnyddir fel bloc toiledau a chawodydd, defnyddio’r tir a chadw’r llecyn caled i storio carafanau, cychod a threlars ar sail fasnachol, defnydd preswyl o un garafán deithiol a chadw’r portacabin a ddefnyddir fel swyddfa ynghyd â gosod gwaith trin carthion a ffos gerrig newydd yn lle’r tanc septig yn Nhan y Graig, Trearddur

 

Adroddwyd bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael gwybod am y cais ar gais Aelod Lleol.  Ymwelodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion â’r safle ar 2 Hydref 2013.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Iain Hodgson, gwrthwynebydd i’r cais, annerch y cyfarfod.

 

Y prif bwyntiau a godwyd gan Mr Hodgson oedd ei fod wedi rhoi gwybod am y cais ôl-weithredol hwn ddwy flynedd a hanner yn ôl.  Roedd y fynedfa i’r safle ar gornel ddrwg a chafwyd nifer o ddamweiniau yn y cyffiniau dros y blynyddoedd.  Roedd yn bryderus nad oedd yr Adran Briffyrdd wedi gwrthwynebu’r cais.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Elfed Williams, asiant yr ymgeisydd, annerch y cyfarfod.

 

Y prif bwyntiau a godwyd gan Mr Williams oedd bod yr ymgeisydd yn fodlon plannu dau gant o goed fel cylchfa ragod ynghyd â lledu’r fynedfa i’r safle a fydd yn caniatáu i ddau gar gyda charafán basio’i gilydd.  Cytunodd y bu damweiniau yn y cyffiniau ond nid mewn cysylltiad uniongyrchol â’r safle hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7