7.1 10C118A/RE – Bryn yr Odyn, Soar
7.2 14C135A – Glasfryn, Ty’n Lon
7.3 19C1052C – Clwb RNA, Ffordd Dewi Sant, Caergybi
7.4 28C483 – Sea Forth, Ffordd Warren, Rhosneigr
7.5 30C713 – Bryn Mair, Llanbedrgoch
7.6 45C438 – Bryn Gwyn, Niwbwrch
Penderfyniad:
7.1 10C118A/RE – Cais llawn i osod ffarm arae heulol 15MW ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir ynddo.
7.2 14C135A - Cais llawn i godi annedd a garej breifat, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod pecyn gwaith trin carthion ar dir ger Glasfryn, Tyn Lôn
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn caniatáu i’r Swyddog Cynllunio ymgynghori gyda’r ymgeisydd ynghylch cyflwyno tystiolaeth o’r angen am dŷ fforddiadwy.
7.3 19C1052C –Cais llawn i godi deuddeg fflat dwy loft a thri fflat un llofft ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd ar safle hen glwb y Gymdeithas Forwrol Frenhinol, St David’s Road, Caergybi.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir ynddo.
7.4 28C483 – Cais llawn i osod caban pren yn Sea Forth, Warren Road, Rhosneigr
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir ynddo.
7.5 30C713 – Codi tyrbin gwynt 10kw gydag uchder hwb o ddim mwy na 15.5m, diameter llafn o hyd at 7.5m a blaen fertigol o uchder o ddim mwy na 19.25m
Penderfynwyd, ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd, ganiatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo.
7.6 45C438 – Cais amlinellol gyda rhai materion a gadwyd yn ôl i godi annedd, creu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Bryn Gwyn, Niwbwrch
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad adroddiad y Swyddog.
Cofnodion:
7.1 10C118A/RE – Cais llawn i osod ffarm arae heulol 15MW ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar
Yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2013, dewisodd yr Aelodau ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad. Ymwelwyd â’r safle ar 20 Tachwedd 2013.
Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr Berwyn Owen, fel gwrthwynebydd i’r bwriad, annerch y Pwyllgor.
Cyfeiriodd Mr Owen at –
· Raddfa’r datblygiad, sef 74 erw.
· Effaith andwyol bosib y datblygiad ar Ardal o Dirwedd Arbennig, ar y llwybr seiclo cenedlaethol ac ar dwristiaeth.
· Effaith weledol y bwriad.
· Effaith gronnol y bwriad hwn ynghyd â chynllun Tai Moelion.
· Sylwadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
· Bod polisïau ynni gwyrdd yn cyfeirio’n benodol at banelau heulol ar brosiectau preswyl/domestig yn hytrach nag at brosiectau ar y raddfa hon.
· Gofynnir i’r Pwyllgor wrthod y cais yn bennaf oherwydd ei effaith ar y tirwedd ac ar gymeriad y rhan hon o’r cefn gwlad ond, hefyd, oherwydd nad oes cyfarwydd polisi ar gyfer ffermydd heulol ar y raddfa hon neu i’r Pwyllgor o leiaf ohirio ystyried ceisiadau o’r fath hyd oni fabwysiadir polisi penodol.
Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i Mr Berwyn Owen.
Yna gofynnodd y Cadeirydd i Mr George Meyrick annerch y Pwyllgor o blaid y cais.
Cyflwynodd Mr Meyrick ei hun fel Cadeirydd Stad Bodorgan sy’n fuddsoddwr tymor hir yn economi Môn ac aeth yn ei flaen i danlinellu manteision y bwriad fel a ganlyn:
· Dylai’r Stad gadw rheolaeth sylweddol dros y ffarm heulol er y bydd gofyn cael arian allanol hefyd.
· Roedd Stad Bodorgan yn gwario oddeutu £1,000,000 y flwyddyn ar waith trwsio a chynnal a chadw’n unig ar dai a ffermydd pobl, yn ogystal ag ar asedau diwylliannol a threftadaeth.
· Hon fuasai un o’r ychydig bach o ffermydd heulol yn y Deyrnas Gyfunol fuasai’n gweithredu fel cwmni creu trydan y mae perchenogaeth leol arno.
· Roedd yn brosiect da o ran budd i’r gymuned.
· Roedd prosiect yn y lleoliad cywir lle na fuasai effaith annerbyniol ar y tirwedd nag effaith weledol yn lleol yn y cyd-destun ehangach nag yn gronnol.
· Roedd y bwriad yn adlewyrchu’r polisi cynllunio lleol a chenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy mewn modd cyfrifol gydag ychydig iawn o effaith yn lleol.
· Roedd y Swyddogion Cynllunio’n cefnogi’r bwriad ac nid oedd y cyrff statudol yr ymgynghorwyd â nhw wedi gwrthwynebu.
Holodd aelodau’r Pwyllgor Mr Meyrick ar y materion a ganlyn -
· Effaith y datblygiad hwn ar dreftadaeth amaethyddol Môn ac ar dwristiaeth
· Yr effaith aflonyddol bosib ar ffyrdd cul ac ar fwynderau lleol wrth ddanfon yr offer ac yn ystod cyfnod adeiladu’r datblygiad arfaethedig.
· Y ffaith nad oedd Gwalchmai yn gymuned a fuasai’n cael budd o’r cynllun.
· Oedd Stad Bodorgan yn bwriadu gwneud cais am ragor o ddatblygiadau tebyg yn yr ardal oherwydd bod pryder ynghylch effaith gronnol hwn a datblygiadau tebyg eraill ar yr ardal honno.
Dywedodd Mr Meyrick bod yn rhaid i’r datblygiad fod ar raddfa fawr oherwydd y cysylltiad â’r grid o ran y gwaith a’r offer yr oedd yn rhaid ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7