11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 755 KB
11.1 18C215 – Swn yr Afon, Llanrhwydus
11.2 34C655 – 2 Ty’n Coed Uchaf, Llangefni
11.3 37C187 – Bryn Garth, Brynsiencyn
11.4 47C121A – Hen Blas, Llanddeusant
Penderfyniad:
11.1 18C215 - Cais amlinellol gyda mynedfa wedi ei chynnwys i godi annedd fforddiadwy, creu mynedfa newydd ynghyd â gosod gwaith trin carthion ar dir ger Sŵn yr Afon, Llanrhwydrus, LL68 0SR
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag adroddiad y Swyddog.
11.2 34C655 – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn 2 Ty’n Coed Uchaf, Llangefni
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
11.3 37C187 – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl i godi annedd ynghyd â gwaith altro i’r fynedfa ar dir ger Bryn Garth, Brynsiencyn
Penderfynwydgohirio ystyried y cais fel bod modd i’r Swyddog Cynllunio ailymgynghori gyda’r ymgeisydd ynghylch cael tystiolaeth o angen am dŷ fforddiadwy.
11.4 47C121A – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl i godi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Hen Blas, Llanddeusant
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo.
Cofnodion:
11.1 18C215 - Cais amlinellol gyda mynedfa wedi ei chynnwys i godi annedd fforddiadwy, creu mynedfa newydd ynghyd â gosod gwaith trin carthion ar dir ger Sŵn yr Afon, Llanrhwydrus, LL68 0SR
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y cais gan fod yr ymgeisydd yn ffrind i swyddog perthnasol ac roedd y Swyddog Monitro wedi cael golwg ar y ffeil.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Sioned Roberts roi ei safiad i’r Pwyllgor.
Tanlinellodd Miss Roberts y pwyntiau a ganlyn i gefnogi’r cais–
· Disgrifiodd ei hamgylchiadau personol a’i chysylltiadau teuluol â Sŵn yr Afon a Llanrhwydrus.
· Cyfeiriodd at yr anawsterau o brynu tŷ gan fod pob tŷ ar y farchnad leol, i bob pwrpas y tu draw i’w gallu’n ariannol. Rhoes enghreifftiau o nifer y tai oedd ar werth ar hyn o bryd, a’u prisiau.
· Oherwydd nad oedd tai lleol yn fforddiadwy, roedd yr ardal wedi gweld pobl hŷn yn dod i mewn ac roedd hyn yn drist i’r gymuned wledig. Roedd yn ddigon ffodus o fod wedi cael darn o dir gan ei rhieni yr oedd yn dymuno codi tŷ fforddiadwy arno.
· Ei dymuniad ar gyfer y dyfodol oedd aros yn lleol a magu teulu. Buasai o gymorth iddi hi ac i’w rhieni eu bod yn byw’n agos.
· I gloi, roedd yn dymuno aros yn ei chymuned, yn agos at deulu a ffrindiau a dechrau teulu. Nid oedd yn gofyn am ganiatâd cynllunio i godi tŷ mawr - dim ond am gartref yn y clwstwr bychan o dai o amgylch cartref ei phlentyndod.
Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i Miss Sioned Roberts.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn tynnu’n groes i bolisi’r Cynllun Datblygu ac mai’r unig reswm yr oedd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oedd bod yr ymgeisydd yn ffrind i swyddog perthnasol. Fel y’i bwriedid, roedd y cais mewn cefn gwlad agored lle'r oedd polisïau caeth yn berthnasol a rhaid oedd dangos bod cyfiawnhad dros godi tŷ. Ac eithrio fforddiadwyedd, ni chynigiwyd cyfiawnhad arall dros gefnogi’r cais y gellid ei ystyried dan bolisïau perthnasol tai yn y cefn gwlad. At hyn, roedd safle’r cais mewn man amlwg lle credid y buasai codi tŷ newydd yno’n cael effaith andwyol ar gymeriad y tirwedd o’i amgylch.
Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd Kenneth Hughes ei fod yn cefnogi’r cais am resymau polisi yn ogystal ag am resymau’n ymwneud â’r Gymraeg a dyfynnodd baragraff 9.2.13 Polisi Cynllunio Cymru i gyfiawnhau ei farn. Roedd y paragraff hwn yn darparu ar gyfer mewnlenwi’n sensitif fylchau bychain mewn grwpiau bychain o dai neu estyniadau bychain i grwpiau. Roedd o’r farn bod y polisi’n berthnasol yn yr achos hwn o gofio bod tri thŷ gerllaw ac nid oedd yn credu y buasai annedd arall yn cael effaith andwyol ar yr ardal. Nid oedd dim gwrthwynebiadau’n lleol i’r bwriad. At hyn, roedd y bwriad yn rhoi cyfle i sicrhau parhad y teulu yn ogystal â chadw’r to ifanc ar yr Ynys ac yn eu cymunedau. Fel ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11