11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 377 KB
11.1 – 13C183A – Seren Las Bodedern
11.2 – 36C272A - Cae’r Bwl, Rhostrehwfa
Penderfyniad:
11.1 13C183A – Cais amlinellol gyda mynediad wedi ei gynnwys ar gyfer codi annedd ynghyd â gwaith altro i’r fynedfa gyfredol a gosod pecyn triniaeth ar dir ger Seren Las, Bodedern.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn ei adroddiad.
11.2 36C272A – Cais llawn i godi sied amaethyddol i gadw da byw yn Cae’r Bwl, Rhostrehwfa.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad.
Cofnodion:
11.1 13C183A - Cais amlinellol gyda mynedfa wedi ei gynnwys ar gyfer codi annedd ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol a gosod system trin carthffosiaeth ar dir ger Seren Las, Bodedern
Roedd y cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol o’r awdurdod. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Llinos M Hughes, un o’r Aelodau Lleol, i siarad gerbron y cyfarfod.
Dywedodd y Cynghorydd Llinos M Hughes bod yr ymgeisydd wedi prynu 25 acer o dir ger pentref Bodedern fel daliad amaethyddol. Dywedodd bod menter fel hon yn beth digon unigryw gan deulu ifanc lleol y dyddiau hyn. Roedd y Swyddogion Cynllunio wedi dweud yn yr adroddiad bod y cais hwn yn gais yn y cefn gwlad agored. Nododd y Cynghorydd Huws bod 3 annedd ger safle’r cais hwn a hefyd garej brysur. Cyfeiriodd at Bolisi 55 a nodi bod angen diogelu’r iaith Gymraeg ac y byddai cael teulu Cymraeg lleol o fantais i’r gymuned leol. Dywedodd ymhellach y byddai’n awgrymu, fel yr Aelod Lleol, y dylai’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ymweld â’r safle.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei fod eisiau diweddaru’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Roedd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi ymateb gyda gwrthwynebiadau i’r cais ond nid oedd gan Dwr Cymru na’r Adran Ddraenio unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Roedd y Swyddog Hawliau Tramwy wedi dweud bod llwybr cyhoeddus ger y safle ond nad oedd gwrthwynebiad ac roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi dweud bod angen cael gwell llain gwelededd o’r safle ac yr oedd gan yr ymgeisydd ddigon o dir i ddarparu mynediad mewn lle arall. Nododd bod y cais yn amlwg yn y cefn gwlad o ran polisïau cynllunio, 350m o ffin datblygu Bodedern ac nad oedd chwaith o fewn clwstwr. Nid oedd y cais oedd wedi ei gyflwyno yn un am annedd amaethyddol. Yr argymhelliad oedd gwrthod.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
11.2 36C272A – Cais llawn i godi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid yn Cae’r Bwl, Rhostrehwfa
Roedd y cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol o’r awdurdod. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd R.O. Jones y cynnig.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.