12 Gweddill y Ceisiadau PDF 1 MB
12.1 11C607 – Sgwâr Dinorben, Amlwch
12.2 23C309A – Bron Haul, Talwrn
12.3 34LPA991/CC – 44-52 Bryn Meurig, Llangefni
12.4 34LPA991A/CC – 53-62 Bryn Meurig, Llangefni
12.5 46C263M – Parc Carafannau Ty’n Towyn, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur
12.6 47C102A – Clwchdernog Bach, Llanddeusant
Penderfyniad:
12.1 11C607 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad presennol o doiledau cyhoeddus i uned arlwyo yn Sgwar Dinorben, Amwlch
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
12.2 23C309A – Cais amlinellol gyda’r materion i gyd wedi’u cadw’n ôl ar gyfer annedd unllawr a garej ar dir cyfagos i Bron Haul, Talwrn
PENDERFYNWYD gwrthod y ais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
12.3 34LPA991/CC – Cais llawn i godi ports a drws diogelwch yn 44-52 Bryn Meurig, Llangefni
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
12.4 34LPA991A/CC – Cais llawn i godi ports a drws diogelwch yn 54-62 Bryn Meurig, Llangefni
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
12.5 46C263M – Cais llawn ar gyfer lleoli 11 caban coed ar gyfer pwrpas gwyliau, creu mynedfa newydd a thirlunio yn Parc Carafannau Tyn Towyn, Lon St. Ffraid, BaeTrearddur
PENDERFYNWYD i weld y fynedfa, y cynefin a’r droedffordd a awgrymir.
12.6 47C102A – Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliad yn Clwchdernog Bach, Llanddeusant
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
Cofnodion:
12.1 11C607 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad presennol o doiledau cyoeddus i uned arlwyo yn Sgwar Dinorben, Amwlch
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o’r tir ym mherchenogaeth y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.
12.2 23C309A – Cais amlinellol gyda’r materion i gyd wedi’u cadw’n ôl ar gyfer annedd unllawr a garej ar dir ger Bron Haul, Talwrn
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd R.G. Parry OBE fel Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, fel Aelod Lleol, bod safle’r cais y tu allan i ffin pentref Talwrn a’i fod yn gyfagos i 12 annedd arall. Roedd o’r farn y dylai’r cais hwn gael ei drin fel cais mewnlenwi a’i nodi fel clwstwr. Roedd yr ymgeisydd yn siaradwr Cymraeg a byddai caniatáu’r cais hwn o fudd i gymuned fechan fel Talwrn er mwyn diogelu’r iaith Gymraeg. Roedd y cais yn cydymffurfio â Pholisi 50 ac felly ni fyddai’n tarfu ar fwynderau’r ardal. Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at wrthwynebiad yr Awdurdod Priffyrdd i’r cais oherwydd bod y gwelededd yn y fynedfa yn is-safonol. Nododd bod 6 annedd arall a busnes sy’n defnyddio’r gyffordd hon; roedd o’r farn na fyddai un annedd arall yn cynyddu’r defnydd gan draffig yn sylweddol. Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.
Dywedodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod y ffordd breifat sy’n arwain i’r safle yn cael ei gwasanaethu gan gyffordd is-safonol a hefyd y gwelededd i’r briffordd gyhoeddus sydd ond tua 5 i 10m. Awgrymodd y Swyddog y dylai’r ymgeisydd ystyried cael mynedfa arall i’r safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd Ann Griffith y cynnig.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.
12.3 34LPA991/CC – Cais llawn i godi ports a drws diogelwch yn 44-52 Bryn Meurig, Llangefni
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod y cais ar dir y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.
12.4 34LPA991A/CC – Cais llawn i godi ports a drws diogelwch yn 54-62 Bryn Meurig, Llangefni
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod y cais ar dir y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig. ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12