Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 04/02/2015 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 198 KB

11.1  14C164E – Tryfan, Trefor

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1    14C164E – Cais llawn i godi par o anheddau, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod tanc trin carthffosiaeth ar dir ger Tryfan, Trefor.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

11.1    14C164E – Cais llawn i godi pâr o anheddau, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod tanc trin carthffosiaeth ar dir ger Tryfan, Trefor.

 

Cyflwynir adroddiad ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mae’r ymgeisydd yn gyfaill iswyddog perthnasolfel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan y paragraff hwnnw.

 

Dyweodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor y cafwyd llythyr arall o wrthwynebiad gan ddeiliaid yr annedd gyfagos ond nad ydynt yn codi unrhyw faterion nad ydynt eisoes wedi cael sylw yn yr adroddiad ysgrifenedig.  Dywedodd y Swyddog bod y materion allweddol sy’n gysylltiedig â’r cais yn ymwneud â chydymffurfiaeth â pholisïau cyfredol; ei effaith ar eiddo cyfagos; ei effaith ar y dirwedd o’i amgylch a diogelwch ar y ffordd fawr. Cafodd y cais ar ei ffurf amlineddol ei ganiatáu ym mis Medi 2014 ac oherwydd na fu unrhyw newidiadau o bwys ers hynny, mae’n cwrdd â’r gofynion o ran polisi. Ni ystyrir y byddai’r cynnig yn cael unrhyw effaith arwyddocaol ar fwynderau eiddo cyfagos oherwydd tybir bod y datblygiad fel y caiff ei gynnig yn ddigon pell oddi wrth yr eiddo hynny ac ni fyddai ychwaith yn niweidio’r ardal o’i gwmpas. Mae’r Gwasanaeth Priffyrdd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon gyda’r cynnig o ran diogelwch ar y ffyrdd ac mae’r argymhelliad felly’n un o ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.