12 Gweddill y Ceisiadau PDF 914 KB
12.1 19C1046C/LB – Soldiers Point, Caergybi
12.2 19LPA992/CC – 9 Stryd Stanley, Caergybi
12.3 33C302 – Penffordd, Gaerwen
12.4 34LPA993/AD/CC – Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni
Penderfyniad:
12.1 19C1046C/LB – Cais am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer dymchwel rhan o’r tŷ yn Soldiers Point, Caergybi.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais a gafwyd gan un o’r Aelodau Lleol ac am y rheswm a roddwyd.
12.2 19LPA992/CC – Cais llawn i osod ffenestri codi pren traddodiadol newydd yn lle’r ffenestri sydd ar lawr cyntaf ac ail lawr y drychiad blaen yn Dafydd Hardy, 9 Stryd Stanley, Caergybi.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 33C302 – Cais llawn i newid defnydd adeilad o fod yn annedd (C3) i fod yn rhannol yn siop gwerthu prydau poeth (A3) ac yn rhannol yn annedd (C3) ynghyd â chreu lle parcio ychwanegol yn Penffordd, Gaerwen
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais a gafwyd gan un o’r Aelodau Lleol ac am y rheswm a roddwyd.
12.4 34LPA993/AD/CC – Cais i godi 31 o arwyddion amrywiol ar draws Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
12.1 19C1046C/LB – Cais am ganiatad adeilad rhestredig i ddymchwel rhan o’r ty yn Soldiers Point, Cergybi
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ofyn un o’r Aelodau Lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd J Arwel Roberts, Deilydd Portffolio Cynllunio ac Aelod Lleol am gynnal ymweliad safle er mwyn gallu bod yn glir ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei gynnig oherwydd bod y mater yn un cynhenus yng Nghaergybi. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn bryderus oherwydd y diffyg ymateb gan fwyafrif o’r cyrff cadwraeth yr ymgynghorwyd â hwy ar y mater hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y Pwyllgor yn cynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â’r cais a wnaed gan un o’r Aelodau Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.2 19LPA992/CC – Cais llawn i newid dwy o’r ffenenstri presennol ar lawr cyntaf ac ail yn y ffrynt gyda ffenestri coed sash traddodiadaol yn Dafydd Hardy, 9 Stryd Stanley, Caergybi
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn cael ei wneud gan yr Awdurdod Lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 33C302 – Cais llawn i newid y defnydd o annedd (C3) i ran (A3) cludo bwydydd poeth i ffwrdd a rhan (C3) annedd ynghyd â chreu lle parcio ychwanegol yn Penffordd, Gaerwen
Yr Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid ymweld â’r safle fel y gallai’r Aelodau weld drostynt eu hunain leoliad safle’r cais a’r materion oedd yn codi yng nghyswllt diogelwch y briffordd. Dywedodd y Cynghorydd Hughes bod y Cyngor Cymuned hefyd o blaid cynnal ymweliad safle. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â’r cais a wnaed gan yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.
12.4 34LPA993/AD/CC – Cais i godi 31 o wahanol arwyddion ar draws Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni
Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor Sir oedd yn cyflwyno’r cais ar dir y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hi gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.