10 Ceisiadau sy’n groes i bolisi PDF 494 KB
10.1 45C294C - Bwthyn Minffordd, Penlon, Niwbwrch
Penderfyniad:
10.1 Cais llawn i godi annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Minffordd Cottage, Penlon, Niwbwrch
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.
Cofnodion:
10.1 Cais llawn i godi annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Minffordd Cottage, Penlon, Niwbwrch
Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor fel cais sy’n groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond fel un all gael ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Esboniodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion yn argymell cymeradwyo’r cais er ei fod yn un sy’n tynnu’n groes. Nid yw ardal Penlon yn cael ei chydnabod fel pentref yng Nghynllun Lleol Ynys Môn ond mae’n cael ei nodi fel treflan dan ddarpariaethau Polisi HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Mae’r polisi hwn yn caniatáu datblygu plotiau sengl cyn belled a’u bod yn safleoedd mewnlenwi. Mae’r map o’r safle yn nodi’n glir bod safle’r cais yn safle mewnlenwi gydag anheddau ar y naill ochr a’r llall ac i’r cefn. Roedd yr argymhelliad felly yn un o ganiatau.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jeff Evans.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.