Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 31/07/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 12LPA983/AD/CC – Penrhyn Safnas, Biwmares

 

12.2 22C211C – Yr Orsedd, Llanddona

 

12.3 23C268B – Uwch y Gors, Mynydd Bodafon

 

12.4 30LPA/978/AD/CC – Traeth Coch

 

12.5 34C648A – Pwros, Rhosmeirch

 

12.6 34LPA982/CA/CC – Yr Adeilad ar Stiltiau, Llangefni

 

12.7 47LPA966/CC – Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant

Penderfyniad:

12.1  12LPA983/AD/CC – Cais i leoli arwydd dehongli ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.

 

12.2     22C211C – Cais llawn i godi un twrbin gwynt gydag uchder hwb hyd at 25m, diamedr rotor hyd at 19.24m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.37m ar dir yn Yr Orsedd, Llanddona

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3     23C268B – Cais llawn i newid defnydd a chreu estyniad i’r adeilad allanol presennol i ffurfio annedd ynghyd â gosod uned trin carthion yn Uwch y Gors, Mynydd Bodafon

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

12.4     30LPA978/AD/CC – Cais i leoli panel dehongli yn  Nhraeth Coch

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.

 

12.5     34C648A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol ar dir yn  Pwros, Rhosmeirch

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyrir bod y cais o fewn ffiniau datblygu rhesymol pentref Rhosmeirch. 

 

 

12.6 34LPA982/CA/CC – Caniatád Ardal Cadwraeth ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol yn The Stilts Building, Llangefni

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.7 47LPA966/CC – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol ynghyd â dymchwel yr hen ysgol ar dir  Ysgol Gynradd Llanddeusant.

 

Penderfynwyd gohirio rhoi sylw i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. 

 

 

 

Cofnodion:

12.1  12LPA983/AD/CC – Cais i leoli arwydd dehongli ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd  R.O.Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.

 

12.2     22C211C – Cais llawn i godi un twrbin gwynt gydag uchder hwb hyd at 25m, diamedr rotor hyd at 19.24m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.37m ar dir yn Yr Orsedd, Llanddona

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd penderfynwyd na fydd pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr adroddiad yn dwyn sylw at dri mater allweddol gyda’r cais mewn perthynas â’r egwyddor o ddatblygu, sef y dirwedd, yr effaith weledol a’r mwynderau preswyl.  Er y cydnabyddir bod polisïau’n cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy, ystyrir yn yr achos hwn y byddai’r datblygiad arfaethedig yn creu niwed annerbyniol i’r amgylchedd ac am y rhesymau hynny roedd y Swyddog yn argymell gwrthod y cais.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr John Alexander gyflwyno sylwadau i’r Pwyllgor fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig.

 

Dygodd Mr Alexander sylw at y pwyntiau uchod fel gwrthwynebiadau i’r cynnig:

 

  • Nid yw Ynys Môn wedi ei rhestru fel parth strategol ar gyfer ynni gwynt ar y tir ac, yn ôl TAN 8 ni fu erioed yn fwriad i’r peiriannau hyn ledaenu’n ddi-gynllun dros yr Ynys gyfan.
  • Ni ddylai’r cais tyrbin fod wedi pasio’r broses sgrinio.  Dylai’r Awdurdod Cynllunio fod wedi gwneud ymholiadau gyda defnyddwyr y trawsyrrydd - yr Heddlu, BT ac Aquiva ynghylch problemau gydag ymyriant.  Mae hon yn broblem fawr ac roedd nifer o wrthwynebiadau yn dwyn sylw at y posibilrwydd hwn.  Byddai archwiliad ar adeg y sgrinio wedi arbed amser a chostau.
  • Dyfaliad yn unig yw’r ffigyrau asesu sŵn oherwydd nad oes anemomedr wedi ei godi yn y lleoliad. 
  • Mae’r safle yn rhy agos i dair annedd, yr AHNE, safleoedd hanesyddol a hynafol ac 18 o safleoedd dynodedig.  Bydd yn cael effaith ar Biwmares a Pharc Cenedlaethol Eryri.  Mae’r lleoliad wedi ei amgylchynu gan dirwedd gwerth uchel ac mae’n ardal sydd o bwysigrwydd rhyngwladol ac sydd â daeareg eithriadol. Byddai felly’n difetha un o’r golygfeydd mwyaf ysblennydd ar yr Ynys.
  • Mae’r lleoliad yn agos iawn i’r adeilad rhestredig Graddfa II, Rhos Isaf a’r hufenfa gysylltiedig a ddefnyddir fel llety gwyliau.  Byddai’n cael effaith andwyol hefyd ar Hafoty, un o’r eiddo hynaf ar yr Ynys.
  • Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn dweud nad oes angen asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd ac nad oes ganddo unrhyw gofnod o unrhyw rywogaeth sy’n cael ei ddiogelu’n statudol yn y fro.  Dylai’r Cyngor gysylltu gyda’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a’i Ymgynghorydd Ecolegol ei hun.  Byddai angen asesiad amgylcheddol oherwydd uchder y datblygiad arfaethedig a phresenoldeb ystlumod, cŵn dwr, gwalchod marth,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12