12 Gweddill y Ceisiadau PDF 2 MB
12.1 12LPA983/AD/CC – Penrhyn Safnas, Biwmares
12.2 22C211C – Yr Orsedd, Llanddona
12.3 23C268B – Uwch y Gors, Mynydd Bodafon
12.4 30LPA/978/AD/CC – Traeth Coch
12.5 34C648A – Pwros, Rhosmeirch
12.6 34LPA982/CA/CC – Yr Adeilad ar Stiltiau, Llangefni
12.7 47LPA966/CC – Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant
Penderfyniad:
12.1 12LPA983/AD/CC – Cais i leoli arwydd dehongli ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.
12.2 22C211C – Cais llawn i godi un twrbin gwynt gydag uchder hwb hyd at 25m, diamedr rotor hyd at 19.24m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.37m ar dir yn Yr Orsedd, Llanddona
Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
12.3 23C268B – Cais llawn i newid defnydd a chreu estyniad i’r adeilad allanol presennol i ffurfio annedd ynghyd â gosod uned trin carthion yn Uwch y Gors, Mynydd Bodafon
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
12.4 30LPA978/AD/CC – Cais i leoli panel dehongli yn Nhraeth Coch
Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.
12.5 34C648A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol ar dir yn Pwros, Rhosmeirch
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyrir bod y cais o fewn ffiniau datblygu rhesymol pentref Rhosmeirch.
12.6 34LPA982/CA/CC – Caniatád Ardal Cadwraeth ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol yn The Stilts Building, Llangefni
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 47LPA966/CC – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol ynghyd â dymchwel yr hen ysgol ar dir Ysgol Gynradd Llanddeusant.
Penderfynwyd gohirio rhoi sylw i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Cofnodion:
12.1 12LPA983/AD/CC – Cais i leoli arwydd dehongli ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares
Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.O.Jones.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.
12.2 22C211C – Cais llawn i godi un twrbin gwynt gydag uchder hwb hyd at 25m, diamedr rotor hyd at 19.24m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.37m ar dir yn Yr Orsedd, Llanddona
Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd penderfynwyd na fydd pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr adroddiad yn dwyn sylw at dri mater allweddol gyda’r cais mewn perthynas â’r egwyddor o ddatblygu, sef y dirwedd, yr effaith weledol a’r mwynderau preswyl. Er y cydnabyddir bod polisïau’n cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy, ystyrir yn yr achos hwn y byddai’r datblygiad arfaethedig yn creu niwed annerbyniol i’r amgylchedd ac am y rhesymau hynny roedd y Swyddog yn argymell gwrthod y cais.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr John Alexander gyflwyno sylwadau i’r Pwyllgor fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig.
Dygodd Mr Alexander sylw at y pwyntiau uchod fel gwrthwynebiadau i’r cynnig: