Mater - cyfarfodydd

Ceisiadau yn Codi

Cyfarfod: 03/12/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 779 KB

7.1 15C91D – Ty Canol, Malltraeth

 

7.2 21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

7.3 40C233B/VAR – Yr Owls, Dulas

 

7.4 44C311 – 4 Tai Cyngor, Rhosgoch

 

7.5 46C129B/FR – Parc Dinghy, Porth Castell, Ffordd Ravenspoint,Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1       15C91D – Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi adeilad pwll nofio yn ei le yn Canol, Malltraeth

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac fel yr adroddwyd i'r Pwyllgor.

 

7.2       21C40A - Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir yn Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ei agosrwydd at yr annedd agosaf a'r potensial ar gyfer sŵn ac effaith arogleuon.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

7.3  40C233B/VAR - Cais i ddiwygio amod (01) (Trac a ganiateir ar gyfer defnydd amaethyddol) ar ganiatâd cynllunio 40C233 i ganiatáu cadw’r trac ar gyfer defnydd amaethyddol a symudiad cerbydau ar gyfer gofynion gweithredol Parc Carafanau Tyddyn Isaf yn unig yn The Owls, Dulas.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar gyfyngu ar y defnydd o'r trac ar gyfer gofynion gweithredol y Maes Carafanau i 4 awr y dydd (naill ai a.m. neu'n p.m.) am 5 diwrnod yr wythnos.

7.4  44C311 - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi un annedd ar dir ger 4 Tai Cyngor, Rhosgoch

 

Penderfynwyd ail-gadarnhau’r penderfyniad a wnaed eisoes gan y Pwyllgor i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd y tybir ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 ac na fydd yn achosi niwed annerbyniol i edrychiad a chymeriad y lleoliad.

 

7.5  46C129B/FR – Cais llawn ar gyfer gosod arfwisg graig o flaen y wal strwythur caergawell presenol yn Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Cofnodion:

7.1  15C91D - Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi adeilad pwll nofio yn ei le yn Tŷ Canol, Malltraeth

 

Roedd y cais hwn wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol er mwyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno.  Yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad er mwyn cael prawf mandylledd mewn perthynas â’r draeniad ac i dderbyn sylwadau gan y Swyddog AHNE.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y Swyddog AHNE wedi codi unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig.  Mae’r amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio yn rhoddi sylw i’r problemau draenio.  Roedd yr argymhelliad yn un i gymeradwyo’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac ar yr amod y derbynnir manylion cyn i’r caniatâd gael ei ryddhau.  Oni ddaw’r manylion hynny i law neu os byddant yn annerbyniol i’r Pwyllgor Cynllunio, yna bydd y cais yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliodd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac fel yr adroddwyd i'r Pwyllgor.

 

7.2  21C40A – Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir yn Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

Mae’r cais wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol er mwyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno.  Yn ei gyfarfod ar 3 Medi 2014, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a chynhaliwyd yr ymweliad ar 17 Medi.  Yn ei gyfarfod ar 1 Hydref, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais yn dilyn derbyn ymateb yr Adran Iechyd yr Amgylchedd i’r ymgynghori a gwrthwynebiadau ychwanegol.  Anfonwyd y rheini ymlaen i’r ymgeisydd er mwyn iddynt gael sylw cyn gwneud penderfyniad.   Yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd, penderfynodd y Pwyllgor eto i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn rhoddi i’r ymgeisydd y cyfle i wneud sylwadau.

 

Anerchodd Mr. Rhys Davies y Pwyllgor yn gwrthwynebu’r cais ar sail pryderon difrifol yn lleol ynglŷn â’r cynnig.  Dywedodd bod y Swyddog yn ei adroddiad yn argymell caniatáu yn amodol ar gynllun sgrinio a rheoli arogleuon ond ystyrir y bydd y camau lliniaru hynny yn rhy hwyr unwaith y bydd y cynnig wedi ei weithredu oherwydd ei fod mod agos at yr annedd agosaf sef Penrhyn Gwyn.  Dylid bod wedi cynnal asesiad sŵn ac effaith ar arogleuon cyn gwneud penderfyniad ar y cais sef canllawiau y mae awdurdodau eraill yng Nghymru yn eu dilyn pan fydd unrhyw gynnig i ddatblygu o fewn 200m i’r eiddo agosaf.  Yn yr achos hwn, bydd wedi ei leoli o fewn 100m o Penrhyn Gwyn.  Dywed canllawiau cynllunio y gellir codi adeiladau i gadw anifeiliaid neu byllau cribol heb ganiatâd cynllunio os ydynt wedi eu lleoli ymhellach na 400m o’r annedd agosaf gan ei gwneud yn glir felly mai 400m yw’r meincnod ar gyfer cynigion megis hwn.  Dywed y Swyddog Iechyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7