Mater - cyfarfodydd

Ceisiadau yn Codi

Cyfarfod: 02/03/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 499 KB

7.1  14C171H/ENF – Fferm Stryttwn, Ty’n Lon

7.2  28C116U – Canolfan Arddio Maelog, Llanfaelog

7.3  39C561/FR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  14C171H/ENF – Cais ôl-weithredol i godi llety gwyliau o’r newydd yn Ffarm Stryttwn, Ty’n Lôn

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  28C116U – Cais dan Adran 73 i amrywio rhag-amodau (05), (06), (11), (12), (13), (14), (15) ar benderfyniad apêl rhif cyfeirnod APP\6805\A\07\2053627 fell y gellir eu tynnu ar ôl cychwyn gwaith ar y safle ynghyd â dileu amod (16) yng Nghanolfan Arddio Maelog, Llanfaelog

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i wrthod y cais yng nghyswllt yr amod mewn perthynas â thai fforddiadwy, yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

7.3  39C561/FR – Cais llawn i adeiladu Canolfan Zorb ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau a maes parcio i geir ar dir yn The Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddogion.

Cofnodion:

7.1  14C171H/ENF – Cais ôl-weithredol i godi llety gwyliau o’r newydd yn Ffarm Stryttwn, Ty’n Lôn.

 

Adroddir ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror 2016, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm ei fod yn ystyried bod y caniatâd presennol ar y safle i greu uned breswyl ar yr un ôl-troed â’r cynnig presennol yn gorbwyso’r polisïau a’r canllawiau penodol y mae swyddogion wedi eu defnyddio i asesu’r cais. Ni fyddai’r effaith ar yr amgylchedd yn ddim mwy na phetai’r adeilad presennol wedi cael ei addasu a’i ymestyn, fel y cymeradwywyd yn flaenorol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry OBE, fel Aelod Lleol, ac fel yr oedd wedi’i adrodd yn y cyfarfod blaenorol, fod yr ymgeisydd wedi gweithredu yn unol â chyngor swyddog proffesiynol i gario ymlaen gyda’r gwaith ar ôl i’r wal stabl gwympo yn ystod gwaith adeiladu. Cyfeiriodd at y ffaith nad yw’n ystyried bod y cais yn ddim gwahanol i’r hyn y rhoddwyd caniatâd iddo’n flaenorol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig. 

 

Yn dilyn y bleidlais ddilynol PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

7.2  28C116U – Cais dan Adran 73 i amrywio rhag-amodau (05), (06), (11), (12), (13), (14), (15) ar benderfyniad apêl rhif cyfeirnod APP\6805\A\07\2053627 fell y gellir eu rhyddhau ar ôl cychwyn gwaith ar y safle ynghyd â dileu amod (16) yng Nghanolfan Arddio Maelog, Llanfaelog.

 

Adroddir ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror 2016, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm bod angen amlwg am dai fforddiadwy yn yr ardal leol ac nad yw’r achos a roddwyd ymlaen gan yr ymgeisydd yn ateb yr angen hwn.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio eu bod wedi derbyn gohebiaeth oddi wrth asiant yr ymgeisydd yn datgan y byddent yn apelio yn erbyn y penderfyniad petai’r cais yn cael ei wrthod. Nododd ymhellach fod yr Ymgynghorydd Tai Fforddiadwy wedi cadarnhau, yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn y Gwerthusiad Hyfywedd, fod yr ymgeisydd wedi profi’n ddigon da na fyddai’r datblygiad yn hyfyw petai’r gofyniad i ddarparu 30% o dai fforddiadwy yn aros.

 

Dywedodd y Cynghorydd R.A. Dew, Aelod Lleol, nad oedd yn gwrthwynebu i amrywio rhag-amodau (05), (06), (11), (12), (13), (14), (15) ar benderfyniad apêl cyfeirnod APP/6806/A/07/2053627 fel y gellir eu dileu. Fodd bynnag, roedd yn gwrthwynebu’r cais i dynnu’r amod mewn perthynas â 30% o dai fforddiadwy. Pwysleisiodd bod angen dybryd am dai fforddiadwy yn yr ardal.

 

Cytunodd aelodau’r Pwyllgor y dylai elfen tai fforddiadwy y cais aros, ond roeddent yn cytuno na ddylid herio’r cais i amrywio’r rhag-amodau eraill petai’r ymgeisydd yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7