10 Ceisiadau’n Gwyro PDF 358 KB
10.1 38C223A – Pen y Bont, Ffordd y Mynydd, Llanfechell
10.2 41C132/RUR – Cae Isaf, Pentraeth
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 38C223A – Cais llawn i godi 21 o anheddau ar dir ger Pen y Bont, Ffordd y Mynydd, Llanfechell.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 41C132/RUR – Cais llawn i godi dwy annedd amaethyddol, gosod pecyn offer trin carthion ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir yng Nghae Isaf, Pentraeth.
Nodwyd bod y cais wedi cael ei dynnu’n ôl.
Cofnodion:
10.1 38C223A – Cais llawn i godi 21 o anheddau ar dir ger Pen y Bont, Ffordd y Mynydd, Llanfechell
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i bolisi ond yn gais y dymuna’r Awdurdod Cynllunio Lleol ei gymeradwyo, ac fe’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor hefyd ar gais Aelod Lleol.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn ffurfio rhan o’r cae a oedd wedi derbyn caniatâd cynllunio’n flaenorol am 19 o anheddau. Bydd y rhan sy’n weddill o’r cae yn cael ei ddatblygu ar gyfer 7 o anheddau fel y cymeradwywyd yn flaenorol. Bydd safle’r cais presennol am 21 uned ar dir sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio ac a fyddai wedi cynnwys 12 o unedau fel rhan o gynllun blaenorol. Bydd gan y cynllun felly 28 o unedau ar y safle cyfan gyda’r gofyn i ddarparu 9 o unedau fforddiadwy. Mae’r ymgeisydd wedi cynnwys lle parcio i 5 o geir ar hyd y briffordd i helpu tagfeydd traffig wrth yr ysgol, a bydd llwybr troed yn cael ei adeiladu hefyd.
Nododd y Cynghorydd Llinos M. Huws, Aelod Lleol, y bu pryderon difrifol yn y gymuned leol ynglŷn â’r cais hwn yn 2008 pan gafodd y cais cyntaf ei gyflwyno, gan eu bod yn ystyried nad oedd unrhyw ofyn am ddatblygiad o’r fath ym mhentref Llanfechell. Mae’r cais bellach am 28 o anheddau ac ystyrir y bydd hyn yn estyniad niweidiol i bentref bychan fel Llanfechell. Mae gan y Cyngor Cymuned bryderon difrifol am yr effaith ar ysgol y pentref gan fod y safle yn ffinio â’r ysgol; mae pryderon wedi’u mynegi hefyd ynglŷn â’r effaith ar yr iaith Gymraeg.
Cyfeiriodd y Cynghorydd John Griffith, Aelod Lleol, at bryderon y Cyngor Cymuned ynghylch y cais hwn a’r cais yn 2008 oherwydd yr angen yn yr ardal am ddatblygiad o’r fath. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Awdurdod wedi adnabod y safle fel safle posib i ddatblygu tai.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 41C132/RUR – Cais llawn i godi dwy annedd amaethyddol, gosod pecyn offer trin carthion ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir yng Nghae Isaf, Pentraeth
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymgeisydd wedi tynnu’r cais yn ôl.
Nodwyd bod y cais wedi cael ei dynnu’n ôl.