Mater - cyfarfodydd

Ceisiadau yn Codi

Cyfarfod: 05/07/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 – HHP/2023/51 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

HHP/2023/51

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  HHP/2023/51 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdy presennol ynghyd â chodi anecs deulawr yn Lleoliad: Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech, Tyn Y Gongl

 

Penderfynwyd GWRTHOD y cais yn groes I argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd:- 

 

·      bod y cais yn or-ddatblygiad o’r safle;

·      goredrych dros yr eiddo cyfagos;

·      bod ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru I’r ymgynghoriad yn anghywir gan ei fod yn dangos ar eu mapiau risg llifogydd bos yr annedd wedi’i leoli o fewn ardal risg llifogydd.    

 

(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).

Cofnodion:

7.1  HHP/2023/51 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y garej bresennol ynghyd ag adeiladu anecs deulawr yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol ar sail gorddatblygu’r safle ac effaith andwyol ar fwynderau eiddo cyfagos. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mai 2023, penderfynwyd cynnal ymweliad safle corfforol a chynhaliwyd yr ymweliad safle ar 17 Mai 2023. Derbyniwyd cynlluniau ychwanegol a newidiadau i’r cynlluniau arfaethedig mewn perthynas â’r cais ar 15 Mai 2023 ac fe’u dosbarthwyd i’r Aelodau Lleol ac Aelodau’r Pwyllgor yn ystod yr ymweliad safle. Ail ymgynghorwyd ar y cais ar 17 Mai 2023 ac, yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023, argymhellwyd gohirio’r cais yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn cyflwyno adroddiad llawn yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2023.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mrs Andrea Thorburn, a oedd yn gwrthwynebu’r cais, ei bod yn gwrthwynebu’r cais i adeiladu anecs yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech. Dywedodd fod y penseiri eu hunain wedi datgan fod y ffenestr llawr cyntaf ar y drychiad de ddwyrain yn tarfu ar breifatrwydd ei hystafell wely. Mae’r pensaer yn cynnig y bydd ffens 2.2m o uchder yn atal y goredrych ac mae’r swyddfa gynllunio’n cytuno â’r canfyddiad hwn ond mae lluniad D918.09 fersiwn C strydlun yn dangos fod y wybodaeth hon yn anghywir ac yn gwbl gamarweiniol. Yn ogystal, mae’r lluniad yn dangos ffenestr yr ystafell wely yn y lle anghywir ac yn is nag y dylai fod gan olygu fod y wybodaeth yn anghywir. Mae lluniad D918.10 hefyd yn dangos y ffens 2.2m o uchder a fyddai’n cael ei hadeiladu ac a ddylai atal goredrych ac mae’n uwch na’r caniatâd y gofynnwyd amdano. Ychwanegodd ei bod wedi adeiladu ffens 2.2m o uchder i ganfod a yw’r ffens yn addas i bwrpas ond mae hyn wedi cadarnhau na fydd y ffens yn atal goredrych. Mae’r garej unllawr presennol sy’n 3m o uchder i’w gweld yn glir uwchben llinell y ffens. Gofynnodd i’r pwyllgor cynllunio ystyried a fyddai adeiladu ffens yn amddiffyn ei phreifatrwydd a ph’un ai yw’r cais cynllunio’n gywir; y rheswm am hyn yw bod y swyddfa gynllunio, ar 4 Mai 2023, wedi rhoi cyfarwyddyd i’r pensaer ailgyflwyno’r lluniadau gan fod y wybodaeth ynghylch y ffens yn gamarweiniol. Fodd bynnag, y diwrnod cynt, sef 3 Mai 2023, roedd y swyddfa gynllunio wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau a oedd yn datgan y byddai’n caniatáu’r cais ac roeddent wedi derbyn y wybodaeth anghywir er gwaethaf ei gwrthwynebiadau cyson. Nid yw lleoliad y cais hwn wedi newid ac mae’n cynnwys gwybodaeth anghywir am y ffens derfyn. Dywedodd fod ei Chyfreithiwr wedi ei chynghori i hysbysu’r pwyllgor y bydd Cyngor Môn yn gyfrifol am dalu iawndal am dresmasu a niwsans os bydd caniatâd yn cael ei roi i’r anecs ac os na fydd y ffens yn atal goredrych. Mae’r swyddfa gynllunio wedi datgan hefyd y gellir gweld i mewn i’w hystafell wely o Lancefield yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7