10 Ceisiadau’n Gwyro PDF 487 KB
10.1 – VAR/2023/18 – Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 VAR/2023/18 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) o caniatâd cynllunio rhif 43C54G/VAR (codi annedd) er mwyn caniatáu 5 mlynedd pellach i gychwyn y datblygiad yn Lleoliad: Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
10.1 VAR/2023/18 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) o gais cynllunio rhif 43C54G/VAR (codi annedd) er mwyn caniatáu 5 mlynedd pellach i gychwyn y datblygiad yn Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio wedi’i roi yn 1992 ar gyfer adeiladu annedd ar y safle. Yn 2012, caniatawyd tystysgrif cyfreithlondeb i sicrhau’r caniatâd gan fod gwaith sylweddol wedi cychwyn yn barod ar yr eiddo. Yn dilyn hynny, caniatawyd dyluniad diwygiedig yn 2013 ac yn 2018 rhoddwyd caniatâd i ymestyn y caniatâd am 5 mlynedd arall. Nododd fod hwn yn gais i ymestyn oes y caniatâd ac na fu newidiadau sylweddol i’r cyd-destun polisi o ran dyluniad i’r fath raddau y byddai’r adran yn dod i wahanol gasgliad. Yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd John I Jones.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.