Mater - cyfarfodydd

Ceisiadau’n Gwyro

Cyfarfod: 05/07/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau’n Gwyro pdf eicon PDF 487 KB

10.1 – VAR/2023/18 – Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn

VAR/2023/18

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 10.1  VAR/2023/18 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) o caniatâd cynllunio rhif 43C54G/VAR (codi annedd) er mwyn caniatáu 5 mlynedd pellach i gychwyn y datblygiad yn Lleoliad: Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cofnodion:

10.1  VAR/2023/18 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) o gais cynllunio rhif 43C54G/VAR (codi annedd) er mwyn caniatáu 5 mlynedd pellach i gychwyn y datblygiad yn Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio wedi’i roi yn 1992 ar gyfer adeiladu annedd ar y safle. Yn 2012, caniatawyd tystysgrif cyfreithlondeb i sicrhau’r caniatâd gan fod gwaith sylweddol wedi cychwyn yn barod ar yr eiddo. Yn dilyn hynny, caniatawyd dyluniad diwygiedig yn 2013 ac yn 2018 rhoddwyd caniatâd i ymestyn y caniatâd am 5 mlynedd arall. Nododd fod hwn yn gais i ymestyn oes y caniatâd ac na fu newidiadau sylweddol i’r cyd-destun polisi o ran dyluniad i’r fath raddau y byddai’r adran yn dod i wahanol gasgliad. Yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd John I Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.