11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 266 KB
11.1 30C728A/DA – Meusydd, Llanbedrgoch
Penderfyniad:
11.1 30C728A/DA – Cais am faterion a gadwyd yn ôl i godi 1 annedd ar dir ger Meusydd, Llanbedrgoch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
11.1 30C728A/DA – Cais am faterion a gadwyd yn ôl i godi 1 annedd ar dir ger Meusydd, Llanbedrgoch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn Swyddog perthnasol yn yr Awdurdod. Mae’r cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd T. V. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.