Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 07/05/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – 11C554B – The Sail Loft, Porth Amlwch

12.2 – 19C1136 – Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi

12.3 – 19C5R – Ffordd y Traeth, Caergybi

12.4 – 19C792G – Caffi’r Parc, Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

12.5 – 19LPA997/CC – 5 Stryd Stanley, Caergybi

12.6 – 20C277G/VAR – Tai Hen, Rhosgoch

12.7 – 34LPA998/CC – 1 Isgraig, Llangefni

12.8 – 39C72E – Clwb Rygbi Porthaethwy, Porthaethwy

12.9 – 43C32D/DA – To Gwyrdd, Pontrhydybont

12.10 – 46C38S/ECON – Sea Shanty House, Lôn St Ffraid, Trearddur

12.11 – 46C397D – Bryniau, Lôn Penrhyn Garw, Trearddur

12.12 – 46C66J/FR – Garej Progress, Lôn St Ffraid, Trearddur

 

Penderfyniad:

12.1  11C554B Cais llawn i addasu ac ehangu yn The Sail Loft, Porth Amlwch

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  19C1136 Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad symudol i ddarparu meithrinfa yn Ysgol Gynradd Kingsland, Kingsland, Caergybi

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais fel bod modd cael trafodaethau ynghylch materion priffyrdd.

 

12.3  19C5R Cais llawn diwygiedig ar gyfer adeiladu cofeb ffisegol ar dir i’r gorllewin o’r heneb i goffau’r Ymweliad Brenhinol yn 1958 yn Ffordd y Traeth, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn codi yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais hwn.

 

12.4  19C792G Cais llawn ar gyfer adeiladu storfa biniau yn Caffi’r Parc, Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn codi yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais hwn.

 

12.5  19LPA997/CC – Cais llawn ar gyfer amnewid pedwar o’r ffenestri presennol i’r llawr cyntaf a’r ail lawr yn yr edrychiad blaen gyda ffenestri traddodiadol dalennog pren yn 5 Ffordd Stanley, Caerybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  20C277G/VAR – Cais i amrywio amod (13) (Goleuo) ar ganiatâd Cynllunio 20C277 yn Tai Hen, Rhosgoch

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7  34LPA998/CC – Cais llawn ar gyfer creu mynedfa newydd a man parcio yn 1 Isgraig, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.8  39C72E - Cais llawn ar gyfer codi storfa ac ystafell fitrwydd a chysgodfa yn Clwb Rygbi Porthaethwy, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.9  43C32D/DA – Cais am fater a gadwyd yn ôl ar gyfer gwedd yr adeilad(au) ynghyd â materion diwygiedig a gadwyd yn ôl ar gyfer gosodiad a graddfa yr adeilad(au) ar gyfer codi annedd a modurdy preifat ar dir ger To Gwyrdd, Pontrhydybont

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.10  46C38S/ECON – Cais llawn ar gyfer codi bwyty ar dir ger  Sea Shanty House, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais a wnaed gan un o’r Aelodau Lleol.

 

12.11 46C397D – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir yn Bryniau, Lon Penrhyn Garw, Bae Treaddur

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.12  46C66J/FR –  ...  view the full Penderfyniad text for item 12

Cofnodion:

12.1  11C554B – Cais llawn i addasu ac ehangu yn The Sail Loft, Porth Amlwch

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  19C1136 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad symudol i ddarparu meithrinfa yn Ysgol Gynradd Kingsland, Kingsland, Caergybi

 

Ar ôl gwneud datganiad o ddiddordeb yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Jeff M. Evans y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio y dylid gohirio’r cais oherwydd materion parcio a phriffyrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais fel bod modd cael trafodaethau ynghylch materion priffyrdd.

 

12.3  19C5R – Cais llawn diwygiedig ar gyfer adeiladu cofeb ffisegol ar dir i’r gorllewin o’r heneb i goffau’r ymweliad Brenhinol yn 1958 yn Ffordd y Traeth, Caergybi

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio mai’r dyddiad diwethaf ar gyfer derbyn sylwadau oedd 12 Mai 2014. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn codi yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais hwn.

 

12.4  19C792G – Cais llawn ar gyfer adeiladu storfa biniau yn Caffi’r Parc, Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio mai’r dyddiad diwethaf ar gyfer derbyn sylwadau oedd 9 Mai 2014. Argymhellir cymeradwyo’r cais ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn codi yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais hwn.

 

12.5  19LPA997/CC – Cais llawn ar gyfer amnewid pedwar o’r ffenestri presennol i’r llawr cyntaf a’r ail o’r edrychiad blaen gyda ffenestri traddodiadol dalennog pren yn 5 Ffordd Stanley, Caerybi

 

Roedd y cais hwn wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor oedd yn gwneud y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12