10 Ceisiadau’n Gwyro PDF 744 KB
10.1 13C141B – Llain y Delyn, Bodedern
10.2 30C759 – Fairacre, Benllech
10.3 31C134E – Cae Cyd, Llanfairpwll
Penderfyniad:
10.1 13C141B - Cais llawn ar gyfer codi 3 phâr o dai pâr ar dir yn Llais y Delyn, Bodedern
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 30C759 - Cais llawn ar gyfer codi annedd newydd ar dir ger Fairacre, Benllech
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.3 31C134E - Cais llawn i godi 5 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Cae Cyd, Llanfairpwll
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
10.1 13C141B - Cais llawn ar gyfer codi 3 phâr o dai pâr ar dir yn Llais y Delyn, Bodedern
Roedd y cais wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor oherwydd bod y safle yn un oedd wedi ei ddyrannu o dan Bolisi 14 a 38 Cynllun Lleol Ynys Môn. Roedd y cais yn un oedd yn groes i’r dynodiad hwn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cynnig o fewn ffin ddatblygu Bodedern a’i fod wedi ei neilltuo ar gyfer grin bowlio yn 1996. Dros y blynyddoedd, roedd hanner y cae wedi’i ddefnyddio fel tir datblygu ac roedd gweddill y tir yn addas ar gyfer adeiladu arno. Roedd Swyddog Tai Gwledig y Cyngor wedi cadarnhau bod angen am y math hwn o dai yn ardal Bodedern.
Roedd y Cynghorydd Ken Hughes fel Aelod Lleol yn cefnogi’r cais yn amodol ar wneud Cytundeb Adran 106 yng nghyswllt tai fforddiadwy.
Nododd y Cynghorydd John Griffith, fel Aelod Lleol bod problemau carthffosiaeth yn Bron y Graig.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 30C759 - Cais llawn ar gyfer codi annedd newydd ar dir ger Fairacre, Benllech
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn groes i’r Cynllun Datblygu Unedol.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.3 31C134E - Cais llawn i godi 5 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Cae Cyd, Llanfairpwll
Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor fel cais oedd yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn, ond fel un y gellid ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod cais tebyg am ganiatâd cynllunio amlinellol wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor ym mis Mai ac i ganiatâd gael ei roi. Dywedodd bod y cynnig hwn yn gais llawn ond ei fod yn flaenorol yn gais oedd yn groes i bolisi ac yn un oedd y tu allan i ffin ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol, ond o fewn y ffin yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Aeth ymlaen i egluro bod y cais hwn fel cais llawn yn cael ei drin fel cais newydd a bod yn rhaid delio ag ef fel cais newydd. Cyfeiriodd at y Pwyllgor Cynllunio ym mis Mai pryd y gwnaed cais i gymeradwyo 5 tŷ. Yr unig wahaniaeth yn awr yw edrychiad y tai a sut y byddent yn ffitio i mewn ar safle’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Meirion Jones fel Aelod Lleol y byddai rhai o’r anheddau newydd hyn yn edrych dros y tai eraill yn yr ardal.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at yr asesiad yn y cais amlinellol a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10