Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 02/07/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1  12C431C/LB – Gwynfa, Biwmares

 

12.2  19C792H – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

12.3  19LPA434B/FR/CC – Canolfan Jesse Hughes, Caergybi

 

12.4  19LPA999/CC – 1 Market Hill, Caergybi

 

12.5  19LPA1000/CC – 42-44 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

12.6  19LPA1001/CC – Sinema yr Empire, 39 Stryd Stanley, Caergybi

 

12.7  31C14V/1 – 34 Cil y Graig, Llanfairpwll

 

12.8  36C328A – Bodafon, Llangristiolus

 

12.9  46C168A/FR – Trearddur House, Lôn St Ffraid, Trearddur

 

Penderfyniad:

12.1   12C431C/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig i osod drysau Ffrengig yn lle’r ffenestr bresennol yn Gwynfa, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD argymell i CADW fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y Swyddog ac yn unol â’r amodau y cytunwyd arnynt gan yr Aelodau.

 

12.2   19C792H - Cais llawn i newid defnydd garej a stordy yn llety byncws ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3   19LPA434B/FR/CC – Cais llawn i atgyweirio’r adeiladau presennol, dymchwel yr estyniad cysylltiedig a chodi estyniad deulawr newydd yng Nghanolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn disgwyl am ymateb i gais am wybodaeth gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes fel Aelod Lleol.

 

12.4   19LPA999/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn 1 Market Hill, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5   19LPA1000/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn  42-44 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6   19LPA1001/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn Sinema’r Empire, 39 Stryd Stanley, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7   31C14V/1 - Cais llawn i addasu ac ymestyn 34 Cil y Graig, Llanfairpwll

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â'r cais a wnaed gan y Cynghorydd Davies.

 

12.8   36C328A – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â dymchwel y garej bresennol ar dir ger Bodafon, Llangristiolus

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â'r cais a wnaed gan un o'r Aelodau Lleol.

 

12.9   46C168A/FR - Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi'u cadw yn ôl ar gyfer codi annedd ar dir yn Trearddur House, Lôn St Ffraid, Trearddur

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

12.1   12C431C/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig i osod drysau Ffrengig yn lle’r ffenestr bresennol yn Gwynfa, Biwmares.

 

Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Rowlands, Aelod Lleol i’r cais gael ei gyflwyno’r flwyddyn ddiwethaf.  Roedd rhan o’r cais yn un i addasu ystafell ym mlaen ac ar ochr yr adeilad fel y gellid cael mynediad i’r anabl.  Roedd yr allanfa bresennol drwy’r drws ffrynt a’r bwriad yw gosod drws Ffrengig lle ceir ffenestr ar hyn o bryd.  Roedd y drws o’r union batrwm a gytunwyd ar gyfer blaen y tŷ yn y cais blaenorol ar 7 Chwefror y flwyddyn hon.  Nid yw gwaelod y ffenestr ond un droedfedd o’r llawr.  Roedd Cyngor Tref Biwmares yn cefnogi’r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn i symud y ffenestr sydd yno ar hyn o bryd a rhoi drws yn ei lle.  Eglurodd nad oedd hwn yn gais cynllunio ond yn gais caniatâd adeilad rhestredig lle byddai CADW yn gwneud penderfyniad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid caniatáu’r cais yn amodol ar newid chwareli’r drws yn unedau gwydro bychan fyddai’n gweddu gyda’r ardal.  Eiliodd y Cynghorydd Raymond Jones y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD argymell i CADW fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y Swyddog ac yn unol â’r amodau y cytunwyd arnynt gan yr Aelodau.

 

12.2   19C792H - Cais llawn i newid defnydd garej a stordy yn llety byncws ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3   19LPA434B/FR/CC – Cais llawn i atgyweirio’r adeiladau presennol, dymchwel yr estyniad cysylltiedig a chodi estyniad deulawr newydd yng Nghanolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi.

 

Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yn y cais hwn ac arhosodd yn y cyfarfod ond heb bleidleisio na chymryd rhan yn y mater.

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.

 

Fel Aelod Lleol, gofynnodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes am i’r Pwyllgor ohirio’r cais oherwydd na chafwyd unrhyw ymgynghori ar y dechrau gyda’r Aelodau Lleol perthnasol ac roedd yn disgwyl hefyd am ymateb i gais am wybodaeth a oedd yn berthnasol i’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gohirio’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn disgwyl am ymateb i gais am wybodaeth gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes fel Aelod Lleol. 

 

12.4   19LPA999/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn 1 Market Hill, Caergybi

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor ei hun oedd yn gwneud y cais.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12