Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 02/04/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau a oedd yn gwyro pdf eicon PDF 672 KB

10.1 19C452E – Canada Gardens, Ffordd Llundain, Caergybi

 

10.2 27C95C – Plas Llanfigael, Llanfigael

 

10.3 33C125L – Cynlas, Gaerwen

Penderfyniad:

10.1    19C452E – Cais amlinellol ar gyfer codi 18 o anheddau ar dir yn Canada Gardens, Ffordd Llundain, Caergybi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog yn amodol ar gytundeb adran 106 ynghylch darparu cartrefi fforddiadwy, ynghyd â chyfraniad ariannol tuag at lecyn chwarae ar Ffordd Llundain a’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2    27C95C – Cais llawn ar gyfer ailgodi’r annedd a ddifrodwyd gan dân ynghyd â chodi estyniad yn Plas Llanfigael, Llanfigael

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.3    33C125L - Cais llawn i ddymchwel modurdy presennol, codi annedd newydd sydd yn cynnwys balconi ar yr ochr ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â chadw’r fynedfa i’r annedd bresennol yn Cynlas, Gaerwen

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod y bydd y manylion draenio’n cael eu datrys a bod unrhyw amodau ychwanegol angenrheidiol yn cael eu cynnwys.

Cofnodion:

10.1  19C452E –Cais amlinellol ar gyfer codi 18 o anheddau ar dir yn Canada Gardens, Ffordd Llundain, Caergybi

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y byddai caniatáu tai ar safle’r cais sydd wedi ei ddyrannu ar gyfer defnydd busnes yn un fyddai’n tynnu’n groes i Bolisi 2 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Pholisïau B2 a B4 Cynllun Fframwaith Gwynedd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais o fewn ffin ddatblygu Caergybi ond ei fod wedi ei ddyrannu ar gyfer defnydd busnes/diwydiannol yn y Cynllun Lleol.  Fodd bynnag, roedd cais amlinellol am ddatblygiad preswyl ar dir yn Canada Gardens wedi ei ganiatáu ar apêl yn 2009 ac roedd y Swyddogion o’r farn  nad oedd unrhyw newid mawr wedi bod yn y sefyllfa ers yr amser hwnnw ac a fyddai’n arwain at benderfyniad gwahanol.  Pe bai unrhyw newid mewn pwyslais i’w weld, byddai’r pwyslais hwnnw yn ymwneud â lleoli datblygiadau diwydiannol ac/neu fusnes y tu allan i’r dref gyda datblygu Parc Cybi.  Roedd dynodiad busnes/cyflogaeth safle’r cais wedi ei wneud yn wreiddiol yn 1996.  Nid oedd lle i gredu y byddai caniatáu’r cais yn cael effaith niweidiol ar y cynllun datblygu.  Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau ar sail dechnegol i’r datblygiad gan unrhyw un o’r ymgynghorwyr statudol ac roedd y materion hyn i’w hystyried ar y cyfnod apêl.  Yr argymhelliad oedd cymeradwyo’r cais gyda Chytundeb Adran 106 i ddarparu tai fforddiadwy a chyfraniad terfynol tuag at le chwarae ar Ffordd Llundain a threfniadau cynnal a chadw ar gyfer y ffens acwstig.

 

Mynegodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones oedd yn siarad fel Aelod Lleol bryderon ynglŷn â’r sefyllfa draffig o fewn ac o amgylch safle’r cais a gofynnodd i’r Swyddog Priffyrdd gadarnhau bod yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon na fydd unrhyw broblemau’n codi o ganlyniad i’r datblygiad.  Dywedodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod y cais yn cydymffurfio â’r gofynion technegol.  Roedd effeithiau’r cynnig ar y briffordd wedi ei sgriwtineiddio ar apêl ac roedd yr Arolygwr yn fodlon nad oedd y pryderon a leisiwyd yn ddigonol i warantu gwrthod y cais, ac roedd y Swyddogion Priffyrdd yn cyd-fynd â’r farn honno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gais na diddordeb busnes ar hyn o bryd yn y tir dan sylw.  Ceisiodd gael eglurhad o beth yr oedd dynodiad tai fforddiadwy yn ei olygu yn yr amgylchiadau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod Cytundeb Adran 106 safonol gan Awdurdod Lleol am dai fforddiadwy yn dweud na ddylai annedd fforddiadwy gael ei gwerthu am fwy na chyfran benodol o werth yr annedd ar y farchnad agored yn amodol ar drafod gyda’r ymgeisydd yn seiliedig ar yr ystadegau tai yn ardal y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn credu bod yr ardal yn addas ar gyfer datblygiad o’r fath a dywedodd ei fod yn credu ei bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10