Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
· I nodi’r trafodaethau hyd yn hyn gyda Horizon Nuclear Power (HNP) mewn perthynas â’r gwaith gwella ac adeiladu posibl y bydd angen ei wneud i’r A5025 i hwyluso’r gwaith o adeiladu a gweithredu’r orsaf bŵer niwclear newydd arfaethedig yn Wylfa;
· Awdurdodi Swyddogion i fwrw ymlaen â thrafodaethau gyda HNP i sefydlu’r dull mwyaf priodol i sicrhau cyflawni’r gwaith y mae angen ei wneud ar yr A5025 yn cynnwys gwaith ymchwilio mewn partneriaeth â HNP a thrafod a llunio fframwaith ar gyfer symud ymlaen gyda chytundeb.
· Nodi y bydd unrhyw drefniadau cydweithio/partneriaeth a sefydlir dan yr uchod yn cael eu cyflwyno’n ôl i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried cyn eu cyflwyno i’r Cyngor llawn.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol) mewn perthynas â thrafodaethau anffurfiol gyda Horizon Nuclear Power dros y 12 mis diwethaf ar nifer o faterion yn cynnwys eu bwriadau i wneud/ariannu gwaith adeiladu a gwelliannau i’r A5025.
PENDERFYNWYD