12 Codi Pris Prydau Ysgolion
PDF 224 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y bydd pris pob pryd ysgol yn codi gan 10c o fis Medi 2014.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes yng nghyswllt y codiad angenrheidiol ym mhris prydau ysgolion o fis Medi 2014.
Mynegodd y Cynghorydd Llinos M. Huws ei phryderon y bydd rhai teuluoedd yn methu fforddio’r cynnydd. Mae rhai teuluoedd nad ydynt yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim eisoes yn dibynnu ar fanciau bwyd. Ategodd y Cynghorydd R. Ll. Jones y pryderon mew perthynas â’r codiad ym mhris prydau ysgol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes bod cost prydau ysgol ym Môn yn cymharu’n ffafriol gyda siroedd eraill. Nid oedd y Cyngor Sir wedi codi pris prydau ysgol ers Medi 2012.
PENDERFYNWYD y bydd pris pob pryd ysgol yn codi gan 10c o fis Medi 2014.