Ceisiadau'n Codi
7.1 19C1136 – Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi
7.2 22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona
7.3 38C237B – Careg y Daren, Llanfechell
7.4 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol
7.5 – 46C38S/ECON – Sea Shanty House, Lôn St Ffraid, Trearddur
ADRODDIAD I DDILYN
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 19C1136 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad symudol i ddarparu meithrinfa yn Ysgol Kingsland
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 22C40A – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a modurdy a chodi annedd a modurdy newydd, codi stablau, gosod system trin carthffosiaeth ac addasu’r fynedfa bresennol yn Cae Maes Mawr, Llanddona
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog oherwydd yr effeithiau andwyol ar yr AHNE oherwydd maint a dyluniad yr annedd newydd arfaethedig ac a byddai’n amlwg yn y dirwedd.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.
7.3 38C237B – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i geir ar dir ger Careg y Daren, Llanfechell
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais ac yn ychwanegol i’r amodau cynllunio safonol, bod amod penodol yn cael ei roi ar y penderfyniad yn gofyn am sefydlu gwrychyn i rannu safle’r cais oddi wrth y cae cyfagos.
7.4 44C294B – Cais llawn i godi tyrbin gwynt 20kW gydag uchder hwb hyd at 20.5m, diamedr rotor hyd at 13.1m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 27.1m ar dir yn Plas Newydd, Rhosybol
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i wrthod y cais yn seiliedig ar effeithiau negyddol cronnol y cynnig ar y dirwedd ac ar olygfeydd o Fynydd Parys.
7.5 46C38S/ECON - Cais llawn ar gyfer codi bwyty ar dir ger Sea Shanty House, Lôn St. Ffraid, Trearddur
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.
Cofnodion:
7.1 19C1136 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad symudol i ddarparu meithrinfa yn Ysgol Kingsland
Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yn y cais hwn, arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y mater.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio i’r drafodaeth ar y cais gael ei gohirio yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ym Mai 2014 oherwydd materion priffyrdd. Roedd y materion hynny bellach wedi eu datrys gyda llythyr o gefnogaeth wedi ei dderbyn gan Caban Kingsland yn cadarnhau’r trefniadau parcio. Ers derbyn y llythyr o gefnogaeth, mae’r Adran Priffyrdd wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig. Yr argymhelliad felly yw un o ganiatáu.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei ganiatáu ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Victor Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 22C40A – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a modurdy a chodi annedd a modurdy newydd, codi stablau, gosod system trin carthffosiaeth ac addasu’r fynedfa bresennol yn Cae Maes Mawr, Llanddona
Roedd y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei alw i mewn i’r Pwyllgor gan ddau o’r Aelodau Lleol.
Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth Mr. John Alun Rowlands, Technegydd Priffyrdd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.
Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr. Ifan Rowlands oedd wedi gofyn am gael siarad yn y cyfarfod i gefnogi’r cais, yn bresennol.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones oedd yn annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol ei fod yn siarad i gyfleu safbwyntiau nifer o breswylwyr pryderus yn Llanddona yn ogystal â safbwynt unfrydol y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais hwn am annedd fawr ar safle arfordirol o fewn AHNE. Dygodd sylw at y materion canlynol fel rhai a oedd yn peri pryder.
• Mae cadw cymeriad y dirwedd hanesyddol o amgylch Traeth Baner Las Llanddona yn bwysig i gymuned Llanddona ac i’r Cyngor Cymuned. Mae’r ardal arfordirol yn gyforiog o glytwaith o gaeau gyda bythynnod yma ac acw; roedd Cae Maes Mawr yn un o’r hen fythynnod hyn cyn iddo gael ei addasu’n fyngalo.
• Bydd y datblygiad ar y maint a fwriedir gydag annedd â 5 o ystafelloedd gweled gyda 5 ystafell ymolchi ensuite a garej a stablau yn difetha’r olygfa o’r traeth a byddai’n ddolur llygad.
• Mae llethrau Traeth Llanddona yn ardal lle ceir llithriadau tir ac fe gafwyd enghraifft ddifrifol o hyn rhyw ddwy flynedd yn ôl. Mae rhan o’r llwybr arfordirol wedi ei gau yn ddiweddar ac mae Adran Priffyrdd yn ymchwilio ar hyn o bryd i graciau yn y ffordd i lawr i’r traeth. Rhaid rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r posibilrwydd y ceir mwy o lithriadau tir o ganlyniad i’r datblygiad mawr hwn.
• Mae’r ymgeisydd yn dymuno cloddio i gryn ddyfnder oherwydd bod y datblygiad arfaethedig yn sylweddol uwch na’r byngalo gwreiddiol gydag effeithiau posibl i’r ffordd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7