Ceisiadau'n Gwyro
10.1 25C163C – Tyddyn Waen Barn, Bachau
10.2 27C102 – Penrhos, Llanfachraeth
ADRODDIAD I DDILYN
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 25C163C – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw'n ôl i godi un annedd ar dir ger Tyddyn Waen Barn, Bachau
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 27C102 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd presennol sydd wedi ei ddifrodi gan dân a chodi annedd yn ei le yn Penrhos, Llanfachraeth
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
10.1 25C163C – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw'n ôl i godi un annedd ar dir ger Tyddyn Waen Barn, Bachau
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond y gellid ei gefnogi dan ddarpariaethau polisi HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Roedd y cynnig yn dderbyniol mewn termau tirweddol cyffredinol ac roedd yn ymdoddi’n dda gyda’r pethau oedd o’i gwmpas.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Victor Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 27C102 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd presennol sydd wedi ei ddifrodi gan dân a chodi annedd yn ei le ym Mhenrhos, Llanfachraeth
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i Gynllun Lleol Ynys Môn, ond gyda’r Swyddogion yn bwriadu ei ganiatáu.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cynnig oedd hwn i ddymchwel annedd oedd wedi ei difrodi gan dân a chodi annedd yn ei lle fydd yn adlewyrchu’r annedd wreiddiol ac a fydd yn cael ei hadeiladu ar sail tebyg am debyg. Er nad yw’r safle wedi ei leoli o fewn unrhyw anheddiad a nodir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a’i fod yn groes i Bolisi 53 y Cynllun Lleol sydd yn rhwystro codi anheddau newydd ar dir yn y cefn gwlad agored ac eithrio lle mae’r holl feini prawf rhestredig wedi eu bodloni, fe geir annedd ar y safle er na ellir byw yn yr annedd oherwydd difrod tân ac roedd yn cael ei ystyried bod yr amgylchiadau yn yr achos hwn yn cyfiawnhau rhoi caniatâd.
Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.