13.1 – 33C302 – Penffordd, Gaerwen
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
13.1 33C302 - Cais llawn i newid defnydd o annedd (C3) i fod yn rhan o (A3) siop i werthu pethau poeth i fwyta allan a rhan annedd (C3) ynghyd a chreu ychwanegiad i safle parcio yn Penffordd, Gaerwen
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad
Cofnodion:
13.1 33C302 - Cais llawn i newid defnydd o annedd (C3) i fod yn rhan o (A3) siop i werthu pethau poeth i’w bwyta allan a rhan annedd (C3) ynghyd â chreu ychwanegiad i safle parcio yn Penffordd, Gaerwen
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i’r cais hwn gael ei ganiatáu gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 2 Ebrill 2014. Roedd yr adroddiad ysgrifenedig yn nodi nad oedd unrhyw ymateb wedi ei dderbyn gan y Cyngor Cymuned. Roedd y Cyngor Cymuned wedi nodi ei wrthwynebiad cryf i'r cais ac roedd am sicrhau bod ei sylwadau wedi eu nodi.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.