7.1 21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel
7.2 42C9N – Pentraeth Services, Pentraeth
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 21C40A – Cais llawn i godi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir ger Penrhyn Gwyn, Llanddaniel.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhellion y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
7.2 Cais llawn i ddymchwel y gweithdy, y swyddfa a’r ystafell arddangos bresennol, ehangu’r orsaf betrol, codi dwy uned adwerthu (dim bwyd) a darparu lle parcio ychwanegol yn Pentraeth Services, Pentraeth
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
7.1 21C40A – Cais llawn i godi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir ger Penrhyn Gwyn, Llanddaniel
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai argymhelliad y Swyddog yn awr yw gohirio’r drafodaeth ar y cais a hynny oherwydd materion a ddaeth i law yn hwyr ac sydd angen eu trafod ymhellach gyda’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gohirio’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 Cais llawn i ddymchwel y gweithdy, y swyddfa a’r ystafell arddangos bresennol, ehangu’r orsaf betrol, codi dwy uned adwerthu (dim bwyd) a darparu lle parcio ychwanegol yn Pentraeth Services, Pentraeth
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Lleol. Aeth Aelodau’r Pwyllgor i ymweld â safle’r cais ar 17 Medi, 2014.
Aeth y Cynghorydd Kenneth Hughes allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem oherwydd ei fod wedi datgan diddordeb yn y cais hwn.
Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Sandra Robinson Clark annerch y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i’r cais.
Dywedodd Ms Clark ei bod yn siarad ar ran ei chymdogion yn 73 i 78 Nant y Felin wrth gofrestru eu gwrthwynebiad cryf iawn i’r datblygiad arfaethedig a fyddai, oherwydd ei faint, uchder ac agosrwydd at y tai hyn, yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r sawl sy’n byw ynddynt. Cyfeiriodd at bryderon yn ymwneud â cholli preifatrwydd oherwydd nifer ychwanegol y ffenestri cefn ac uchel ar yr estyniad arfaethedig fel y cânt eu dangos ar y cynllun ac at golli golau dydd naturiol. Nid yw’r cynnig yn cymryd i ystyriaeth o gwbl yr olygfa o’r tai cyfagos a byddai’r datblygiad yn llethu’r tai hynny. Yn ogystal, byddai’r sŵn ychwanegol oherwydd y cynnydd yn y traffig y byddai’r cynnig yn ei greu yn cael effaith andwyol ar drigolion eiddo cyfagos. Byddai’r sŵn o’r unedau adwerthu hefyd yn gwaethygu’r sefyllfa.
Rhoddwyd i Aelodau’r Pwyllgor y cyfle i ofyn cwestiynau i Ms Clark. Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith am eglurhad ynghylch pwynt a wnaed yn y cyflwyniad mewn perthynas â diffyg cydymffurfiaeth â’r cynlluniau. Cadarnhaodd Ms Clark fod y pwynt hwnnw’n ymwneud â gosod ffenestri tryloyw yn yr estyniad presennol a hynny’n groes i’r hyn a fwriadwyd.
Gofynnodd y Cadeirydd i Jan Tyrer gyflwyno ei sylwadau i gefnogi’r cais. Dywedodd Ms Tyrer mai un o brif amcanion y cynnig yw rhoi sylw i faterion diogelwch drwy gynyddu capasiti’r orsaf betrol i ddarparu tanwydd ac i ddarparu lle ar gyfer cerbydau sy’n disgwyl. Drwy ddymchwel yr adeiladau cyfredol y tu cefn i’r safle a chodi uned adwerthu newydd yn ardal yr iard, byddid yn gwneud i ffwrdd â’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r gweithdy yn yr ardal honno, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7