11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 395 KB
11.1 36C63H – Rhos Annedd, Rhostrehwfa
11.2 38C149B – Llanddygfael Hir, Llanfechell
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 36C63H – Cais llawn i godi garej yn Rhos Annedd, Rhostrehwfa
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 38C149B – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir yn Llanddygfael Hir, Llanfechell
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig, ac i ddirprwyo awdurdod i Swyddogion ddelio ag unrhyw faterion allai godi o ganlyniad i’r arolwg ystlumod.
Cofnodion:
11.1 36C63H – Cais llawn i godi garej yn Rhos Annedd, Rhostrehwfa
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog o’r Awdurdod. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r mater allweddol yw a fyddai’r garej arfaethedig yn cael effaith ai peidio ar eiddo cyfagos. Ym marn y Swyddog, ni fyddai’r cynllun yn cael unrhyw effaith niweidiol ar unrhyw eiddo cyfagos i’r graddau y byddai hynny’n cyfiawnhau ei wrthod. Roedd yr argymhelliad felly yn un i gymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 38C149B – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir yn Llanddygfael Hir, Llanfechell
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog o’r Awdurdod. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r materion allweddol yw egwyddor y datblygiad o ran y polisïau cynllunio perthnasol sy’n ymwneud â chodi anheddau newydd yn lle hen rai ac ystyriaethau tirwedd o ran yr Ardal Dirwedd Arbennig. Daeth y Swyddog i’r casgliad fod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio gyda’r darpariaethau yn y polisi sy’n ymwneud â chodi anheddau newydd yn lle hen a’r ystyriaeth o ran y dirwedd ac ystyrir ei fod yn dderbyniol. Petai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais, ni fydd y caniatâd cynllunio’n cael ei gyhoeddi hyd oni fydd yr arolwg ystlumod wedi cael ei gynnal. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ddirprwyo’r awdurdod i’r Swyddogion ddelio gyda’r mater hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ei fod ef, fel Aelod Lleol, yn cefnogi’r cais a chynigiodd ei gymeradwyo. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig a dirprwyo awdurdod i Swyddogion ddelio ag unrhyw faterion allai godi o ganlyniad i’r arolwg ystlumod.